Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ■Nr IC BACH. Ac fe'ch galwodd Miss Jones y " titshiar " chwi yn dunce, ai do ? Wel, wel, nid ydyw yn ddymunol cael ein galw felly, a ydyw ? Ond os gwnaethoch eich gwers goreu gallech chwi, hidiwch befo. Mae nhw'n dweyd, wyddoch, mai dunce fyddai y " titshar" yn galw Isaac Newton, a Walter Scott, a Charles Darwin pan oeddynt yn yr ysgol. A gyda llaw, gŵr dysgedig iawn oedd Duns Scotus, oddiwrth enw yr hwn y daeth y gair 'yr ydych yn gashau gymaint. Ond nid oedd Duns Scotus yn cydweld â dysgu'r clasuron, ac felly gelwid ei ddilynwyr, y rhai oeddynt o'r un farn âg ef ar y pwnc hwn, yn Dunees. Yna, o fod yn air am rai na fynnent ddysgu'r clasuron, daeth i gael ei arfer am rai na fynnent ddysgu o gwbl, ac yr wyf yn gwybod nad ydych chwi yn un o'r rhai hynny. Grtjffydd E. Yr wyf yn cytuno â chwi fod hetiau merched wedi bod yn eithafol o ran maint yn ystod y tymor diweddaf, ond nid ydwyf yn cytuno mai " merched yn unig ac ym mhob oes " sydd yn euog o eithafion mewn gwisg. Beth feddyliech am feibion yn gwisgo esgidiau at y pen glin, ac wrth y gadwen nifer o fân glychau yn tincian gyda phob symudiad y perchennog ? Buasech yn synnu at yr olygfa oni fuasech ? Ac eto yr oedd yn un gyffredin yn nyddiau Elizabeth. Mair. Dyma un eglurhad i chwi ar yr ymadrodd " Christmas Box." Dywedir y byddai yn arferiad pan fyddai llong yn mynd ar fordaith i wlad bell bwrcasu bocs a'i roddi o dan ofal offeiriad pabyddol. Yr oedd hyn yn golygu fod gweddiau i gael eu dweyd dros ddiogelwch y llong neilltuol honno a'r morwyr ar ei bwrdd. Er hyrwyddo effeithioldeb y gweddiau, byddai arian yn cael ei ddodi yn y bocs ; ac adeg y Nadolig byddai yn cael ei agor, a'r arian yn cael ei roddi i'r tlodion. Yr oedd unwaith yn arferiad llosgi nifer o ganhwyllau mawr yn y tai ar ddydd Nadolig; ac ar yr adeg honno, byddai y rhai oedd yn gwerthu canhwyllau yn anrhegu eu cwsmeriaid â nifer o ganhwyllau fel "Christmas Box." Castanwydden y Meirch. Ar tudalen 196, llinell 11, darlleher " perffaith " yn lle " prydferth." Richie. Yr oedd y gred yn effaith da pedol ceffyl wedi ei hoelio ar ddrws tŷ yn gyffredinol iawn yn niwedd y ddeunawfed ganrif ar bymtheg a dechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dywedir fod nifer i'w gweld ar ddrysau yn heolydd Llundain. Yr oeddynt hefyd yn cael eu gosod ar longau gyda'r un bwriad, sef dod a " lwc " i'r llestr, a dywedir fod Nelson wedi hoelio un ar tnast y " Yictory." 12