Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. WLADWR. Nirì wyf yn oytuno à chwi pan y dy- wedwch nad oes dichon ysgrifennu barddoniaeth am dlodi a hagrwch bywyd. Os bydd i chwi íeddwl am ennyd, yr wyf yn sicr y cofiwch am amryw o engreifftiau i'r gwrthwyneb. Beth am waith Goronwy a Dewi Wyn ? Ac yn y Saesneg, dyna waith Mrs. Browning, Thomns Hood, ac Ebenezer Elliott. Cewch engraifft arall ddiweddarach yn llyfr bychan T. E. Nicholas, " Salmau'r Werin." Caneuon ydyw'r olaf sydd yn mynd yn syth i'r galon, a^ yr wyf yn credu y teimlwch hynny wrth eu darllen. Un o'r Wlad. Dyma welais yn cael ei roddi fel rheswm dros ein bod yn arferyd y liaw ddeheu yn fwy na'r aswy. Fel y gwyddoch, yn y cyn oesoedd, drwy ymladd yn unig y gallai dyn ddal ei dir yn erbyn gelynion o bob math ; ni allai hyd yn oed gael ei damaid heb ymladd. Gwyddoch hefyd mai at y galon, fel y lle gwannaf, yr anelai'r gelyn bob amser. Oherwydd hynny, defnyddid y llaw aswy i orchuddio'r llecyn gwan hwnnw, tra y defnyddid y llall i darawo'r gelyn. Felly y llaw ddeheu oedd yn cael ei harfer fwyaf, ac oherwydd hynny, yr oedd yn dod yn gryfach ac yn fwy cyfarwydd na'r llall; a dyna paham, meddir, yr ydym yn ei defnyddio yn fwy na'r aswy. Yn y cysylltiad hwn, sylwch ar y gair " deheuig." Nest. Fel y dywedwch, yn aml iawn ysgrifennir y geiriau, " Yr eiddoch yn gywir," " Yr eiddoch yn bur," " Yr eiddoch yn fîyddlon," &c, ar ddiwedd llythyr, heb ystyried o gwbl yr hyn olygant. Clywais bregethwr yn ddiweddar yn rhoddi pregeth i blant ar fod yn " driw " fel byddwn yn dweyd, a chymer- odd y geiriau " Yours sincerely " i esbonio ei bwnc. A dyma'r hanes ddywedai ynglŷn â'r gair " sincere." Yn yr hen ddyddiau Rhufeinig, pan oedd y Rhufeiniaid wedi dod i edmygu dysg a medr y Groegiaid, ac i geisio eu hefelychu yn eu celfau cain, yr oedd galwad dibaid ar y cerflunydd i wneyd delwau o farmor i addurno y dinasoedd. Ac ambell i dro, pan fyddai'r cerflunydd wrthi yn gweithio ar ddarn o gerfluniaeth, canfyddai feallai fod gwall yn y dernyn marmor, neu, feallai, i'w gun, heb geisio megis, dorri llinell rhy ddofn, neu mewn Ue nad oedd angen llinell, ac felly yn gwneyd y gwaith yn amherffaith. Ond yn lle rhoddi ymaith y dernyn marmor a'r diffyg ynddo, a chymeryd un newydd perffaith a dechreu ei waith drachefn, mae'r cerflunydd yn cymeryd math o forter esmwyth tebyg i gŵyr, ac yn Uenwi'r gwallau âg ef, nes mae'r wyneb yn ymddangos i gyd yr un fath, ac nid oedd dichon canfod ar y pryd nad oedd y cerflun i gyd yn berffaith. Ond wedi i'r ddelw fod allan yn y tywydd am beth amser, mae'r twyll yn dod i'r golwg, ac mae'r gwallau yn amlwg i'r holl fyd. FeUy, ar ol hynny, pan fyddai gŵr yn cytuno â cherfluniwr am gerf-ddelw, byddai dau air bob amser yn cael eu gosod yn y cytundeb, a'r ddau air hynny oeddynt, " Sine cere," hynny yw, " Heb gŵyr," a dyma ystyr y gair " sincere," didwyll.