Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. 4IR. Gofynnwch paham mae rhai blodau yn cau, neu yn cysgu, a'r lleill yn dal yn agored nos a dydd ? Fel y dywed- wch mae'n rhaid fod rheswm dros hynny. Dywed naturiaethwyr fod y blodau sydd yn agor yn gynnar yn y dydd yn cael eu fírwythloni gan y gwenyn yn cludo'r paiìl o'r naill i'r Uall, tra mae'r rhai sydd yn agor gyda'r hwyr, megis Briall yr Hwyr ac ereill, yn ddyledus i wybed sydd yn hedeg o amgylch yn y nos am ddwyn y paill o'r naill i'r llall; ac am y blodau nad ydynt yn cau o gwbl, mae y rhai hynny yn cael eu fírwythloni gan y gwynt. Un o'r Lian. Dyma'r traddodiad am yr Iddew Crwydredig (Wandering Jew), a dywedir fod yr hanes wedi ei ddwyn o'r Dwyrain gan Filwyr y Groes yn yr unfed ganrif ar ddeg. Drysawr Praetorium Pilat oedd yr Iddew hwn, a'i enw oedd Joseph Cartaphilus. Pan oedd yr Arglwydd Iesu yn cael ei arwain ymaith i'w groeshoelio, safodd am ennyd wrth y drws, a tharawodd Joseph ef â'i law, gan ddweyd,— " Symud yn gyflymach, pam yr wyt yn ymdroi yma ? " Yna, meddai'r hanes, trodd yr Iesu, a chan edrych arno yn brudd, meddai,—" Yr wyf fi yn mynd, ond rhaid i ti aros fy nyfodiad yn ol." A byth er hynny, meddai'r traddodiad, disgwyliai Joseph Cartaphilus ail ddyfodiad yr Arglwydd Iesu ar ddiwedd y byd. Deg ar hugain mlwydd oed oedd pan ddigwyddodd hyn iddo, ac wedi byw i fynd yn gant yr oedd yn mynd yn ol i ddeg ar hugain, ac felly o hyd. Nid oedd yn cael gorfíwys yn unman, ond gorfodid iddo grwydro ar ei draed o fan i fan yn ddibaid. Dywedid fod ei dynged anhapus wedi ei lareiddio a'i dyneru, ac, yn ol y traddodiad, fod gobaith iddo gael marw a gorffwys mewp bedd fel y gweddill o ddynolryw. Maggie a Willie. Yr wyf yn dymuno gwyliau dedwydd i chwi yn y llecyn prydferth lle y bwriedwch eu treulio. Peth dyddorol fyddai i chwi eich dau gadw " Dyddlyfr Natur " tra y byddwch yno. Gwnewch hyn drwy ysgrifennu hanes pob dyddyn yr awyr agored,—fath olwg oedd ar yr awyr, pa fìodau welsoch wrth grwydro oddiamgyleh, ac mewn fath le yr oeddynt yn tyfu, a llawer o bethau ereill o'r fath. Bydd mynd dros y llyfr wedi dod yn ol i'r dref yn gwneyd i chwi fyw drosodd drachefn y dyddiau dedwydd yn y wlad. J.E.R. Dyma i chwi hanesyn am yr Esgob Taylor Smith. Gwelwch ei gymhwysiad at yr hyn gyfeiriwch ato. Yr oedd yr Esgob unwaith yn cyfarch cynulleidfa o efrydwyr, ac meddai,—" Dyma fel y dysgwch eich Gramadeg, onide ?—' Y fi, person cyntaf ; tydi, ail berson ; Efe, trydydd berson.' Ond nid fel yna y dylai fod. Dyma Ramadeg y Cristion,—' Efe, person cyntaf; tydi, ail berson ; a Fi, y trydydd berson.' Duw ydyw ' Efe,'' Tydi ' ydywdy gyd-ddyn, ac ' Fi ' ydyw'r un sydd i ddod olaf o gwbl."