Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. EUDDEG OED. Yr wyf finnau yn hoff iawn o'r hedydd. Ond wyddoch chwî ei fod yn mynd a chlod aderyn bach arall. Gwyddoch, pan fydd ar rywun eisieu dweyd fod bachgen neu eneth yn codi yn fore, maent yn dweyd ei fod yn codi gyda'r hedydd, fel pe buasai hwnnw yn codi'n gynt na'r adar ereill. Yn lle hynny dylent ddweyd " yn codi gyda'r asgell arian," oherwydd dyna'r aderyn bach, medd y rhai sydd yn gwybod, sydd yn codi foreuaf o'r holl adar. PBiscrLLA.—Mae fy nghydymdeimlad gyda chwi. Nid amser dedwydd ydyw amser " madael." Maent yn gwneyd pethau yn fwy hwylus yn yr Amerig, ac yn dod a chodi eich tŷ a'r cwbl sydd ynddo ar olwynion, a'i gludo yn ei grynswth i'r lle bynnag y dymunech ei osod i lawr, hyd yn oed os yw'r fîordd yn arwain dros afonydd llydain. Ond, wrth gwrs, tai coed ydyw y rhai symudir felly. Marged. Beth feddyliech o'ch adnod wedi ei rhannu fel hyn.—" Ffydd, Gobaith, Cariad,—tair ffordd o edrych. Ffydd, edrych i fyny ; Gobaith, edrych ymlaen ; Cariad, edrych allan." Dyma fel y clywais bregethwr yn ddiweddar yn ei rhannu wrth bregethu i'r plant. W.R. Yr hyn fuasai Sais yn ddweyd yn Ue " Sustine, Abstine," fuasai " Bear and forbear." Gofynnais i eneth fechan roddi'r Gymraeg am hyn i mi, a meddai,—" Gadael i bobl fod yn gâs wrthoch chi heb fod yn gâs yn ol." Feallai nad ydych yn gwybod fod yr arwyddair Lladin yma uwch ben drws yr hen Blas Mawr yng Nghonwy ; ac yn sicr mae yn un cyfaddas. Emyr Wyn. Duw y gwynt oedd Eolus gan y Rhufeiniaid, ac am ei bod yn seinio yn y gwynt y gelwir y delyn yr holwch yn ei chylch yn Delyn Eolaidd. Mae hen stori brydferth yn dod o'r Almaen am bendefig, yr hwn a wnaeth delyn anferth o'r fath drwy osod gwifrau o naill dŵr ei gastell i'r llall. Pan oedd y delyn wedi ei gorffen, disgwyliai y pendefig glywed ei thannau yn seinio mewn peroriaeth, ond yr haf oedd hi, ac yr oedd yr awel yn ddistaw. Eithr pan ddaeth yr Hydref a'i wyntoodd, dechreuodd y delyn roddi ei miwsig ; ac fel yr oedd y tymhestloedd yn cryfhau gySa dyfodiad y gaeaf gerwin, uwch ac uwch y seiniai'r tannau : a phan ysgubai'r awel gref drostynt, tynnai ohonynt y gerddoriaeth fwyaf aruchel.