Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. v-r fì OGEN BACH. Ysgrifenwyd y ddwy linell ddyfynwch mor bell yn ol I a'r bymthegfed ganrif, gan Dafydd Nanmor, bardd oedd yn byw S^À wrth ymyl Beddgelert, a'r hwn, meddir, oedd y bardd goreu yn I JL Eisteddfod fawr Caerfyrddin yn 1420. O'i gywydd i wallt Llio 40 y cymerwyd y ddwy linell roddwch. Merch oedd y Llio hon i Rydderch ap Ieuan Llwyd o Ogerddan, y dywed y bardd fod ei gwallt mor sidanog fel yr oedd rhaid cael i'w gribo, nid y crib pren bras cyffredin, ond crib o " esgyrn meinion pysgod. " Hoff o Flodau. Feallai mai meddwl yr ydych am y traddodiad sydd ganddynt yn Llydaw ynglŷn â'r Gold (Marigold). Dywedant yno os bydd i un a chalon bur gyfîwrdd y blodeuyn euraidd â'i droed noeth, y bydd i'r un hwnnw dderbyn y gallu i ddeall iaith yr adar bach. Büasai llawer un yn dewis cael y gallu hwnnw, oni buasai ? Ynyswr.—Yr wyf yn cyflwyno y canlyn i'ch sylw ; ysgrifenwyd ef gan Sais oedd ar daith drwy Ogledd Cymru yn y flwyddyn 1823, a chewch gymharu yr hyn ddywed ef â'r hyn wyddoch chwi am y Skerries heddyw. Mae ef a chyfaill wedi cyrraedd Caergybi gyda'r goach fawr am chwech o'r gloch yn y bore, wedi bod dair awr a hanner yn dod o Fangor. Yna, wedi cael boreubryd, maent yn mynd at lan y dwfr ac yn llogi pedwar o forwyr i fynd a hwy mewn cwch i rywle fynnent, ac yn cytuno i dalu dau swllt y pen iddynt am y diwrnod. Maent yn dewis mynd i'r Skerries, a dyma ddywed yr ysgrifennydd am y lle hwnnw,—" Geilw y Cymry y fan hon yn Ynys y Moelrhoniaid, gan y gwelir y creadur hwnnw yn aml yn y cyffmiau yma, ynghydag o gylch Ynys Enlli hefyd. Nid un ynys ydyw y Skerries, ond casgliad o fân ynysoedd Ue y ceir ychydig ddefaid tlodion, a digonedd o wningod. Mae yma ddau deulu yn gofalu yn eu tro am y goleudy. Saif hwn ar graig uchel, ac mae yn amlwg o bob cyfeiriad. Adeilad crwn, gwyngalchog, diaddurn ydyw. Mae yn ddi- ddadl ei fod yn ddefnyddiol, ond yn sicr nid oes harddwch yn perthyn iddo ; ond pwy ddisgwyliai gael harddwch ar lann8u mor anghysbell ac anial ? Adeiladwyd ef yn 1730, er diogelwch llongau yn hwylio o Lerpwl i'r Iwerddon. Mae y ddau deulu yn cael punt yn yr wythnos bob un, ac hefyd"rhyw swm neilltuol o lo, am ofalu am dano." W.S. Swyddog yn y Senedd ydyw Black Rod. Gelwir ef felly am ei fod yn dwyn fîon ddu a delw llew aur ar ei phen, fel arwydd ei swydd. Ei brif waith ydyw gweithredu fel negesydd o Dy'r Arglwyddi i Dy'r Cyffredin, ac mae ffurfìau dyddorol yn cael eu dilyn ynglŷn â'i waith. Pan mae enw Black Rod yn cael ei seinio tu allan yn y fynedfa, mae'r Rhingyll (Sergeant at Arms) yn cau drysau'r Ty yn ei wyneb, ac mae'n rhaid iddo guro dair gwaith, a dweyd oi neges drwy fath o ragddor fechan, cyn y caiff fynd i mewn. Nid ydyw yn malio a fydd un o'r aelodau ar ei draed yn siarad ai peidio, ond mae yn dal ei ffon i fyny ac yn cerdded at y bwrdd ; ac wedi moesymgrymu deirgwaith, mae yn dweyd ei neges. Yna mae yn cerdded wysg ei gefn yn ol at y bar.