Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. EFAIS lythyr dro yn ol oddiwrth gyfaill, yn ymdrin am y gwahaniaeth sydd yn y Gymraeg siaradir raewn gwahanol siroedd. Y mae gan y sir yma un gair am rywbeth, a'r sir arall air gwahanol am yr un peth ; ac yr oedd y gohebydd yma yn awgrymu mai dyddorol fyddai dwyn y peth i sylw darllenwyr ieuainc Cymrü'r Plant. Yr wyf yn gwybod eich bod i gyd yn cymeryd dyddordeb yn eich iaith, ac felly mae yn sicr eich bod wedi sylwi ar y gwahan- iaeth yma sydd rhwng Ueferydd y gwahanol rannau o'r wlad, ac yn enwedig rhwng y De a'r Gogledd. Yn wir, mae arnaf ofn, pe buaswn yn talu ymweliad â rhai o'm darllenwyr yn y Deheubarth, na fuaswn yn gallu deall pob gair o'u scwrs, ac mae yn debyg y buasent hwythau yn yr un dyryswch gyda fy lleferydd innau. Ar ol y rhagymadrodd yma, mae gennyf gynhygiad i roddi o'ch blaen,—be fyddai i ni gael rhai o'r geiriau sydd yn cael eu defnyddio am yr un peth yn y gwahanol siroedd, a'r gwahanol ardaloedd yng Nghymru ? I ddechreu, cymerwn y gair *' hedge,"—yr wyf yn rhoddi y Saesneg er mwyn bod yn eglur i bob parth, ac yr wyf yn eich gwahodd chwi, y plant, i anfon y gair ddefnyddir am dano yn y sir lle yr ydych yn byw. Cyhoeddir y gwahanol eiriau o fis i fis. Ac os bydd gan un o honoch air y dewisech gael gwybod y gair ddefnyddir am dano mewn rhan arall o'r ^lad, anfonwch hwnnw hefyd, a chawn ymholiad yn ei gylch. Ffrwyth yr ymddiddan am arwyddeiriau yn rhifyn Ionawr ydyw arwyddair y mis; a danfonwyd ef gan Katie John, o'r Groes Goch, sir Benfro. Onid ydyw yn un priodol i bawb o honom ddal o flaen ein meddwl ? Bil. Ym mis Mai y cewch yr olwg oreu ar y gomed. Ni wna ddim niwed i'r ddaear. Y mae seryddwyr yn medru ei mesur, a chyfrif lle bydd bob dydd a phob awr nes y diflanna i'r ehangder mawr. Y mae rhai'n paratoi at fesur ei phwysau wrth iddi fynd heibio. Cewch chwithau gyfrif sawl gwaith yr ymddanghosodd er amser Owen Glyndwr. Mair. Yr ydych yn gofyn gormod i mi, Mair bach ; nis gallaf ddweyd wrthych " sut i fod yn ddedwydd." Mae y cais am ddedwyddwch yn hen, hen îíais, a phawb yn ei geisio yn ei fîordd ei hun, ac mae'r defliniadau o beth ydyw dedwyddwch heb ddiwedd iddynt. Dyma un welais unwaith, cewch fyfyrio arno,—" Blodyn ydyw dedwyddwch sydd yn tyfu ger llwybr dyledswydd." Bob y Ffridd. Cewch engraifft o'r hyn holwch yn ei gylch yn llyfr bychan M. H. Charles, " Myfi bia'r Dial." Mae yn seiliedig ar ffaith, ac mae yn ffurfio ystori sydd yn cynhyrfu'r teimladau i'w dyfnderoedd.