Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. OM. Dyma i ehwi bwysi o " groeso'r gwan- wyn." Gwell gen i y double daffodil na'r sengl. Y mae'n fwy urddasol a chyfoethog. Gore po felyned fo blodyn pan fo'r ddaear mor lom ac oer. Enw arall ar y daffodil yw Cenhinen Pedr; a chred llawer mai efe, ac nid y leek, yw cenhinen Cymru. Blodeua'r genhinen, meddir, yn yr adeg y blodeuai gynt mewn gwlad gynhesach, cyn ei thraws- blannu i'n gwlad ni. Sis. Yr ydych yn siwr o gael gweld y gomed. Nid oes dim perygl ynddi, ac nid oes dim gwir yn y gred ei bod yn darogan drwg. Y mae'n wir fod'trychineb i rywun yn digwydd pan ddaw, ond y mae da yn digwydd i filiynau. Teuton Dewb. Mae'n wir fod y Ffrancod yn wagsaw a merchetaidd, o'u cymharu â llawer ereill allasem enẃi. Ond, pan fydd eu sel wedi ei danio, pa filwyr yn y byd fedr ymladd fel hwy ? A phan fydd raid dioddef anghysur, fel y bu yn Paris y mis diweddaf, nid oes neb fedr ddioddef mor amyneddgar. Os ydych yn cofio yr oedd yr afon Seine wedi codi, a llenwi'r selerydd a'r heolydd, a thagu pob cwter a fîos. Nid oedd bosibl cael ymborth, ac yroedd haint yn bygwth. Eto, dioddefodd y bobl mewn amynedd. G. Jones. 1. Clywais lawer o son am y Tylwyth Teg yn newid plant yng Nghymru, gan adael rhyw eldrych bach croes yn lle baban rhadlon, ond ni chlywais am unrhyw fîordd i ail newid. Yn yr lwerddon, teflid y-baban, druan, ar y domen, gan dybio nas gallai'r Tylwyth oddef gweld eu baban yno, ac y newidient ef yn ol. 2. Tybir mai swn adar mudol ýn y nos roddodd fod i'r íîred yng Nghwn Annwn. Yn yr Iwerddon ymddanghosai'r diafol fel march du, yn anadlu tân o'i ffroenau ac yn taro tân o'i garnau ; ymddanghosai yn y nos, gan demtio rhai i'w farchogaeth. 3. Ni chlywais am ddau gladdedigaeth yn ymryson rhedeg i'r fynwent yng Nghymru ; gallai hynny ddigwydd yn hawdd yn yr Iwerddon, gan mai yr olaf gleddir sydd i wasanaethu'r lleill pan gyfyd y meirw i chware ganol nos. Dyna'r hen chwedl. A.B. Ie, am wn i, " cymysgu ffigyrau " yw'r enw. Dyma i ehwi engraifft —" Daeth troed distaw i'r ystafell, a rhoddodd ei law ar ei ben." Athraw. Daliwch sylw ein bod yn dal i feddwl am y plant bach. 0 dro i dro, rhoddir tudalen o hwiangerddi, a thôn gyfaddas iddynt. Ac ym nihob rhifyn ceir caneuon syml a hawdd eu deall/ wnant y tro fel action Nid yw Cymru, mwy na Chymru'r Plant, yn adnábod plaid nae enwad; darllenir ef gan bobl o bob math o farn, a chanmolir ef gan y wasg heb oithriad. Ond, oherwydd yr hen gysylltiad rhwng y ddau Gymru, ni wiw i ni ddẁeyd ein barn yn rhy agored.