Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. /P^\ W L A D Y S . Ie, gwlad ddyddorol iawn I ! m ydyw Llydaw. Mae yn enwedig felly i ni m/TJ y Cymry ; ae mae ei hanes yn llawn o ^•^1 swyn cyfrin i ni oherwydd y eysylltiad sydd rhyngom a'i phobl. Mae yn sicr y mwynhewch eich gwyliau yno; a chan fod gennych amser digonol o'ch blaen cyn y deuant, da fyddai i chwi ddarllen rhai o'r llyfrau sydd wedi eu hysgrifennu am Lydaw a'i phobl. Bydd eich mwynhad yn fwy felly, oherwydd byddwch yn gynefin â'r lleoedd i ryw raddau cyn mynd yno. T.R. Nid yr erfyn sydd o bwys, na'r defnydd chwaith, ond yr un sydd yn eu defnyddio. Mae stori yn cael ei dweyd am brentis i ryw gerflunydd yn yr hen amser, yr hwn a wnaeth gerflun mwy godidog na'r un o eiddo ei feistr, o'r talpiau mynor oedd hwnnw wedi eu taflu ymaith yn ddi-werth wrth wneyd ei waith. Ac mae stori arall i'r un perwyl am bi'entis arall wnaeth ffenestr liwiedig o'r fath fwyaf ysplenydd o'r darnau gwydr oedd wedi eu lluchio i'r pentwr dan fwrdd y gweithdy. Nant y Mynybd. Dyma i chwi englyn i'r carw o waith Dafydd ab Gwilym,— lc ,-4 i • r , , . i Grwelais et, a hyd gwialen—o gorn Ac arno naw cangen ; Gŵr balch ag ôg ar ei ben, A gwraig foel o'r graig felen." Mae gan Syr Walter Scott linellau prydferth i'r carw hefyd yn ei gân. " The Lady of the Lake." Bob. Nid yw " Anturiaethau Meinwen a'r Tri " wedi gorffen. Cewch hanes eu teithiau ereill yn y rhifynnau nesaf. Ac yna, yn y diwedd, cewch wybod beth ddaeth o Marged fach. G.W. Nid yw ei.ch llyfr yn hen, ac nid 'wyf yn meddwl ei fod yn brin. Y tebyg yw na chewch fawr iawn am dano yn y farchnad. Y mae Messrs. Bull & Auvache, Hart Street, Bloomsbury, Llundain, gyda'r rhai gore am brynnu a gwerthu llyfrau duwinyddol ail law. Un eisietj gwybod. Mae eich gofyniad yn dod ar adeg dra chymwys. Ystyr y gair Parliament ydyw " cyfarfod i siarad y naill gyda'r llall." Mae yn dod o'r gair Ffrancaeg, parìer—siarad. Mae'r hen air, Parlwr {parlour) o'r un tarddiad, a defnyddid ef i ddechreu fel enw ar ystafell neilltuol yn y mynachdai lle y byddai y mynachod yn cwrdd i ymgomio â'u gilydd. Ffanni. Nis gwn paham y mae y gath yn " cyweirio ei g\vely," chwedl eliwithau. Ond gwelais yn rhywle syíw ar yr arferiad yma o eiddo eich cyfaill, a dywedai hwnnw mai arferiad ydyw sydd yn glynu wrthi er yr amser pan yr oedd yn byw yn wyllt yn y coed, ac nid mewn tŷ a chyda phobl fel y gwna yn awr. Byddai yr adeg honno yn arfer gwneyd ei gwely ymysg dail crin y coed a'r gwellt crin, a dyna'r ffordd oedd ganddi i'w wneyd yn feddal ac esmwyth. A ydyw hyn yn eich boddloni, Ffanni ? Yn y rhifyn diweddaf, dylasai yr enw ar y wyneb-ddarlun fod yn John Merfyn Williams, ac nid Myfyr John Williams.