Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. EREDUR. Na; nid wyf yn eytuno â chwi mai ffolineb i gyd ydyw y cerdyn Nadolig. Mae yn debyg y buasai llawer hen gyfaill heb gyfarchiad o gwbl oni bai am dano, gan mai cas beth y nifer fwyaf o bobl ydyw ysgrifennu llythyr, a hynny ddim ond i ddymuno Nadolig Llawen. Yn yr America, mae yn arferiad anfon cerdyn o gyfarchiad hyd yn oed ar wyl diolch- garwch am y cynhaeaf. Cefais un o'r cardiau hynny y dydd o'r blaen, ac yr oedd arno, mewn lliwiau eglur, lun twrci mawr, a dau neu dri o pumpìcins, a'r geiriau,—" Thanksgiving Greetings." Mair y Rhos. Gyda golwg ar yr enw holwch yn ei gylch, dyma un dehongliad arno. Dywedir fod Harri II. wedi cymeryd dau o feibion Owen Gwynedd yn garcharorion ar ol un o'r brwydrau rliyngddo ef a'r Cymry, a chludodd y ddau gyda'i fyddin i'w rhoddi mewn dalfa ddiogel. Ar ei fîordd, gwersyllodd ar ochr ogleddol afon Ceiriog ; ac o'r Deheubarth yr ochr arall, daeth Caradog o Langarfan ac ap Meredydd gyda'r bwriad o ryddhau eu cydwladwyr. Pan gyrhaeddasant lannau'r afon, yr oedd mewn lli, ac nid oedd modd mynd drosti yn y fan honno. Dilynasant ei chwrs am beth ffordd, yn edrych am le cul fel y gallent groesi. Pan ddaethant yn agos i'r lle saif y bont bresennol, gwelsant olwg am fynd drosodd, a thorasant goed, a gwnaethant bont ohonynt, ac felly llwyddasant i gyrraedd^pFersyll yr estron, ac i achub eu cyfeillion. Ac o'r dydd hwnnw gelw&:-ÿ-iââa, Pont y Meibion ; ac mae'r enw yn gynefin i bawb; o ,honom sydd yn hoffi caneuon Huw Morus, y bardd o Bont y Meibion. .^f rs? ^ Ednyfed. Mae Ionawr yn cymeryd ei enw oddiwrth un o hen dduwiau y Rhufeiniaid, y duw Janus. Yr oedd hwnnw yn cael ei ddarlunio fel dyn a chanddo ddau wyneb, un yn edrych yn ol, a'r llall yn edrych ymlaen. Efe oedd y duw oedd yn llywodraethu drysau a phyrth, ac yr oedd ei enw yn cael ei ystyried yn un tra phriodol ar y mis oedd megis drws neu agoriad i'r flwyddyn, ac ymddanghosai fel yn edryçh yn ol ar yr hen flwyddyn ac eto yn edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Ni fyddai drysau ei deml byth yn agored ond ar adeg rhyfel. Y Plant Mawr. Yr wyf am i chwi oll ddarllen Cymru, os medrwch ei gael, y flwyddyn hon. Caiff y bechgyn ynddo hanesion cyffrous, rhai wrth eu bodd; megis hanes mintai o Gymry yn erlid ar ol llofrudd cyfaill iddynt. Cânt hanes blodau, coed, adar, cwn, a gwiberod hefyd. A chânt hanes arwyr eu gwlad eu hunain, a hen hanesion a rhamantau difyr eu cyndadau. Ceir ef gan lyfrwerthwyr, neu drwy'r post o Swyddfa Cymru, Caernarfon.