Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. RIW BACH.—Beth feddyliech chwi am roddi cinio Nadolig i'ch cyfeillion asgellog ? Dywedir ei fod yn arferiad yn Norway, ar fore dydd y Nadolig, gosod tywysen o yd ar gopa pob adeilad, ac hefyd wrth ben y pyrth a'r drysau, er mwyn i'r adar bach gael un pryd llawn, beth bynnag, yn ystod y gaeaf oer. Clywais hefyd am un teulu yn y wlad hon fyddai yn arfer clymu'r esgyrn ar ol y cinio Nadolig wrth frigau coeden yn yr ardd, fel y caffai yr adar hefyd eu rhan o'r wledd, a gellwch fod yn sicr fod pob plentyn yn y teulu hwnnw yn gofalu peidio crafu ei asgwrn yn rhy lwyr. Richie.—Cymysgedd o rywbeth feddyhr wrth " Olla Podrida." Daw yr ymadrodd o Spaen, ac enw ydyw yno ar yr hyn fuasech chwi yn alw yn " lobscaws," a gwyddoch beth ydyw hwnnw. Spoonerism.—Anfonodd gohebydd, Mr. Ll. G. James, y canlyn,— " Clywais am bregethwr yn cyhoeddi fel hyn,—' Bydd ysgol bump am gân,' yn lle ' Ysgol gàn am burnp.' Chwarddodd y gynulleidfa, ac meddai'r pregethwr wedyn,—' 'Does dim eisieu i chwi chwerthin, mae'r colla yn calli weithiau.' " Oddiwrth ohebydd arall, Mr. R. Drury, daeth hanes. am un hen wr fyddai bob amser yn darllen y rhan olaf o'r bedwaredd adnod yn y drydedd bennod o Mathew fel hyn,—" A'i fwyd oedd locustiaid a mul gwellt." Cynhygiai y gohebydd hwn y ddamcaniaeth mai rhywbeth o'r fath ddigwyddodd yn yr enw " Rhaiadr y wennol," ac mai " Rhaiadr Ewynol " a ddylai fod. Efeydydd.—Hen lyfr Italaidd ydyw'r Decameron, wedi ei ysgrifennu gan un Boccacio. Fel y gwelwch wrth yr enw, mae yn golygu deg, ac mae yn cynnwys deg o ystoriau. Dychmygir i'r deg ystori, un ar gyfer pob dydd, gael eu hadrodd gan gwmni o ddeg cyfaill oedd wedi ffoi o Florence i'r wlad, oddi ar ffordd y pla, yn y flwyddyn 1348. Mae un o'r ystraeon yn dra adna- byddus fel hanes Amynedd Grizel, ac yn honno y cafodd Chaucer ddefnydd un o'r rhai prydferthaf o'i ganeuon. T.W.—Ni chewch drafferth o gwbl i ddod o hyd i ddarnau i'r plant adrodd. Mae nifer o lyfrau adroddiadau i blant wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar. Rhoddais enwau rhai eisoes, a dylai " Neges y Plant " (Cybi) gael ei ychwanegu at y rhestr fel llyfr yn cynnwys darnau syml a byrr i blant bach, bach, i'w hadrodd. Cyhoeddir ef gan yr awdwr, Mr. R. Evans, Llangybi, Chwilog, S.O., a'i bris ydyw chwecheiniog. Gwenfron.—Oes, y mae blodau yn y gaeaf. Un ohonynt yw Rhosyn Nadolig, yr harddaf o deulu Crafanc yr Arth. Yr oedd morwyn dlawd, ebe'r hanes, yn dilyn y Doethion o'r Dwyrain at gryd yr Iesu, heb rodd. Gwnaeth angel i'r blodeuyn hardd hwn dyfu ar ei llwybr, iddi ei gael.