Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •SN- <N ANSI WYN.—Gweláis mewn rhyw hen lyfr y byddai baban ers talwm, pan yn deehreu cerdded, yn gwisgo cap o felfet du wedi ei badio, i rwystro iddo dderbyn niwed iw ben oddiwrth y codymau oedd yn sicr o ddod i'w ran yn ei ymdrechion cyntaf i sefyll ar ei draed ei hun. Gelwid y cap hwn yn " Black Pudding." Feallai mai cyfeiriad at hwn a welsoch. Dic o'r Llwyn.—Mae yn anhawdd cyfrif am hen draddodiadau o'r fath. Dywedir i'r un ynglyn â'r pymthegfed dydd o Orfîennaf,—dydd gwyl St. Swithin,—gael bodolaeth yn y ffordd ganlỳnol. Yr oedd St. Swithin vn wr hynod am ei dduwioldeb a'i ostyngeiddrwydd. Bu farw yn y flwyddyn 862, ac yn ol ei ddymuniad claddwyd ef tu allan i'w eglwys, fel, meddai, y gallai dynion gerdded dros ei lwch, ac y gallai gwlaw pur y nefoedd ddisgyn arno. Ymhen blynyddoedd, fodd bynnag, teimlid fod St. Swithin yn teilyngu amgenach beddrod nag oedd ei ostyngeiddrwydd wedi ddymuno, a symudwyd ei weddillion i orffwysfa cywrain a gyfrifid yn deilyngach,—tu fewn i'r eglwys. Gwnawd hyn ar y pymthegfed o Örffennaf, 971. Fodd bynnag, ar y dydd hwnnw, dechreuodd y gwlaw ddisgyn yn genlli ar Winchester, a pharhaodd i ddisgyn felly am 39 diwrnod, ac edrycìiid ar hyn fel barn y nefoedd ar y rhai oedd wedi beiddio symud gweddillion y sant o'r lle yr oedd wedi dymuno iddynt orffwys. Ac o hynny allan tybid, os byddai iddi wlawio ar y 19fed dydd o'r mis hwnnw, y byddai iddi wlawio am y 39 diwrnod dilynol. Canwr.—Yn ol yr hyn ddywedwyd wrthyf unwaith gan hen gyfaill i mi, oedd yn gerddor, yr ydych yn cyfeiliorni yn yr ystyr roddwch i'r ymadrodd " Canu Coch Sir Fon." Nid dirmyg sydd yn y geiriau o gwbl, ond y gwrths wyneb, meddai ef. A daeth yr ymadrodd oddi wrth un Gwilym Goch, yr hwn wellhaodd gymaint ar ganu'r ynys fel yr enwogodd ei hun am byth, drwy alw o'r bobl y canu da glywid yno yn Ganu Coch ; hynny yw, yr oeddynt yn ddyledus am ei fod felly i ymdrechion diflino Gwilym Goch. Yr Ynys Werdd.—Mae'r hen gân Wyddelig holwch yn ei chylch yn goffhad am hen draddodiad. Dywedir fod y brenin Dermid yn y flwyddyn 554, wedi ymlid ar ol un o'i elynion hyd at allor Ruadau ; ac er fod y truan yn y noddfa honno, llusgodd Dermid ef allan, a rhoddodd ef i farwolaeth. Ar hyn, daeth offeiriad y lle hwnnw, a nifer o offeiriaid ereill, ac a gerddasant dair gwaith o gylch palas y Brenin yn Tara, gan floeddio y melldithion mwyaf ofnadwy uwch ei ben. Yn fuan ar ol hyn líaddwyd y brenin gan Huw Ddu o Ulster, ac aeth ei lys yn Tara yn adfeilion, gan na fynnai neb drigo yno oherwydd y felldith oedd St. Ruàdau wedi gyhoeddi uwch ben y lle. Ond dywedir fod telynor y brenin wedi glynu wrth y lle drwy'r cwbî, ac fod ei esgyrn wedi eu darganfod yno ymlien blynyddau, a'i delyn, a'i thannau yn doredig, yn hongian ar y mur adfeiliedig. Bili Bach.—Na, nid oes gan y brenin, er ei holl frenhiniaeth, hawl i fynd i bob man. Er engraifft, ni chaiff fynd i Dŷ y Cyffredin ond ar ryw adegau neilltuol, megis ar agoriad y Senedd, neu ar ei gohiriad, neu i roddi cadarnhad i'r mesurau a basir.