Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •^- BB^BA.—Ydyw, mae y lafant, yn y dyddiau hyn hefyd, yn cael ei dyfu at y pwrpas a nodwch. Mae caeau o hono i'w cael ger pentref Mitcham, yn Surrey, ac mae ei arogl yn caeì ei gludo ar yr awel am gryn bellter. Wrth ochr y ffordd fawr mae gweithfa, lle y mae yn cael ei droi i'ch hoff berarogl,—dwr lafant. Dic.—Dywedir mai yr achos fod cwpan arian yn cael ei rhoddi fel gwobr mewn ymrysonfeydd ydyw, am y byddai y cefîyl fyddai wedi ennill y *' ras " yn cael ei arwisgo â chloch arian ; a'r gloch, wedi ei throi yr ochr arall i fyny, ydyw y gwpan. Peredur.—Yr hen fîordd i sicrhau i faehgen dyfu i fyny yn filwr dewr oedd i'r tamaid cyntaf o fwyd gael ei estyn iddo ar flaen cleddyf ei dad. Nis gwn a oedd hynny yn efîeithiol a'i peidio. T.W.—Mae'r wyddor i'w chael wedi ei har- grafîu'n fras ar gerdyn, ac o dan bob llythyren Gallwch gyda hwn ddysgu y wyddor i'r plant, ac ar yr Mae y cerdyn i'w ei harwydd llaw ferr. un pryd eu gwneyd yn gynhefin â'r arwyddion llaw ferr. gael oddiwrth Mr. Morgan Griffith, Mason Road, Gorseinion, Glam. Simon.—Pynt heb ganllaw oedd y pynt a godai'r Rhufeiniaid. Ond nid hwy gododd bob pont heb ganllaw ; cododd y Cymry lawer ar yr un cynllun a hwy. Y mae llawer o'r pontydd hyn dros fân aberoedd ein gwlad, wedi eu codi ers canrifoedd meithion ; ac, yn ol pob tebyg, safant am ganrifoedd eto. Ceweh ddarlun un o honynt ar y tudalen nesaf. Athraw.—Gwir iawn ; un o anghenion mwyaf ysgoUon elfennol yw dar- luniau da ar eu muriau. Y mae'r Fine Art Fublishing Co., 29a Charing Cross Road, Llundain, wedi cyhoeddi chwech o rai campus,—" Dewi Sant " Syr Edward Poynter; " Castell Caernarföh,"- Turner, " Melin a Mynyddoedd," David Cox ; " Castell Conwy," Sandby ; " Ffordd Llyn Ogwen," Whittalcer; a " Dyffryn Llugwy," Leader. Y mae'r papur yn ugain modfedd wrth bymtheg. ' Eu pris yw 3/6 yr un. Gellir eu cael wedi eu fîramio'n brydferth am 7/6 yr un- Prin y ceir dim gwell. Amryw.—1. Ychydig iawn o fywgraffiadau fedrwn gyhoeddi. 2. Anaml y medrwn yrru darluniau'n ol, ond gwnawn ein gore. 3. Plant o un o gymoedd Cymru fydd yn y rhifyn nesaf. Nid ydym yn gwrthod bywgraffiadau ; ond rhaid iddynt fod yn darawiadol. Nid yw'n ddigon dweyd fod dyn yn ddyn da ; dylai pob dyn fod felly. Rhaid fod rhywbeth neilltuol yn y da. Rhaid i'r ysgrif fod yn ferr iawn hefyd. Yr hanes nesaf fydd hanes Evan Anthony, Rhos Cil y Bebyll, Morgannwg. Olwen Athrawes.—Mae llu o lyfrau caneuon a dadleuon Cymraeg i blant wedi ymddangos neu ar ymddangos. Yr olaf ddarllennais yw " Dringo'r Ysgol," llyfr chwe cheiniog, gan Ben Jones, Trefeini, Blaenau Ffestiniog. Cewch lawer syniad dymiinol a tharawiadol ynddo, at waith yr ysgol a chyfarfod diwedd y tymor.