Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. FRENTIS.—Mae un dref ar y Cyfandir lle, yr wyf yn tybied, y buasech wrth eich bodd. Yn Buda Pest, yn Hungary, mae yn arferiad gan bob masnachwr gau ei fasnachdy bod dydd yn rheolaidd am ddwy awr ynghanol y diwrnod, pryd y bydd y perchennog a'i wasanaeth- yddion tu ol i'r cownter yn mynd i giniawa, ac yn cael hamdden ar yr un pryd i ddarllen y papur newydd, ac i gael ymgom ar wahanol bynciau y dydd gyda'u cymdeithion : ac, feallai, i ymddifyrru mewn fîordd mwy ysgafn na hynny. Boxer.—Nid ydyw eich hoff gyfeillion ym myd y creaduriaid pedwar- troediog yn cael eu hanghofìo yn y dyddiau hyn, pan gofiwch fod cynifer o gartrefi i gathod a chwn coll, a sefydhadau o'r fath. Mae eartrefi i geffylau oedranus i'w cael hefyd. Yn un ohonynt dywedir fod y cwmni yn amrywiol i'r eithaf, gan fod yno hen geffyl hela aristoerataidd, hen farch rhyfel enwog, poni oedranus oedd gynt yn eiddo i gigydd, poni arall a berchenogid gan hawher, ac un arall a arferai yn nyddiau ei ieuenctyd gludo dillad yn ol a blaen o olchfa neilltuol. Ar nos Calan dywedir eu bod oll yn cael gwledd, y bill of fare yn cynnwys, ymhlith pethau ereill,—moron cochion, afalau, bara, a lwmp o siwgr bob un. Mae hanes am gartref o'r fath hyd yn oed yn Calcutta. Mae hwnnw yn lloches i bob math o anifeiliaid ac adar clwyfus, methiantus, ac oedranus, ac yn eu plith mae nifer mawr o hen geffÿlau. W.S.—Mae y gair " banJcrupt " yn dod o ddau air yn golygu mainc a thorri. a dywedir pan fyddai y bancwyr, neu y gwyr oedd yn dal yr arian, yn methu cyfarfod a'r gofyniadau arnynt, y byddent yn torri y meinciau wrth y rhai y safent pan yn gwneyd busnes, ac mai oddiwrth hynny y cafodd y gair ei ystyr presennol. Eianor.—Nid wyf yn cydweld â chwi mai " miri disynwyr " ydyw y pageants sydd mewn cymaint bri yn awr. Onid ydych yn meddwl eu bod yn ereu dyddordeb yn y gorffennol, ac yn help i enyn brwdfrydedd at hanesiaeth, ac yn wir i ddysgu hanes ei wlad i aml un ? Mae yn fwy na thebyg, fel mae gwaethaf modd, y bydd llawer o'r cymeriadau a'r golygfeydd yn y pageant sydd y dyddiau hyn yng Nghaerdydd, yn hollol ddieithr i nifer mawr o"r dorf fydd yn eu gwylied. Geneth Fach.—Mae arnaf ofn nas gallaf eich cysuro drwy eieh cadarnhau yn eich dameaniaeth bod y darluniau o dylodi yn ein trefydd mawr yn cael eu gorliwio. Dywedodd athrawes mewn ysgol ddyddiol (geneth hollol ym- arferol, heb ronyn o gau sentiment yn perthyn iddi) wrthyf am achos ddaeth o dan ei sylw yn ystod y gaeaf diweddaf yn ei dosbarth yn yr ysgol. Yr oedd ymddanghosfa neilltuol i gymeryd lle yn yr ysgol un diwrnod, ac yr oedd yn angenrheidiol i'r holl blant fod yn bresennol. Wrth ollwng ei dosbarth allan y prydnawn blaenorol, pwysodd yr athrawes ar bob un fod yno yn ddiffael drannoeth. Fodd bynnag, daeth un bachgen bychan ati, a meddai, " Fedra i ddim dwad, teacher." " Ónd rhaid i chi ddwad, Bobbie ; fedrwn ni ddim gwneyd hebddoch chi, achos yr ydych chwi i gymeryd y rhan gyntaf." "Fedra i ddim dod, teacher," oedd ateb digyfnewid Bobbie. " Pam na fedrwch chw? ddim dwad ? " oedd y gofyniad nesaf. Bu'r bychan yn hir eyn cyfaddef y rheswm, ond o'r diwedd daeth ag ef allan,—" Mae rhaid i fy sgidia fi fynd i'r pawn fory, achos 'toes gen mam ddim pres i brynnu einio i ni."