Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •^- LODWEN.—Mae hon yn hen ddadl,—pa un ai bwtshiars y gog (wild hyacinths), ynte clychau glas ysgafn hosanau'r gog (hare bell), ydyw blue bells yr Alban. Yr olaf sydd yn cael mwyaf o gefn- ogaeth, gan y dadleuir fod yr hare bell yn tyfu ar y bryniau yng nghwmni'r grug, mewn tir sych caregog ; tra mai hofî drigfan bwtshiars y gog ydyw llecynau cysgodol o dan goed, lle mae lleith- der i ryw raddau i'w gael. Dadleuir ymhellach o ochr yr hare bell ei fod i'w gael ar hyd yr haf ac ymhell i'r hydref, tra na cheir yr hyacinth ond am ychydig wythnosau yn niwedd y gwanwyn a dechreu'r haf. Un o'r Mynydd.—Nis gwn yn iawn at bwy y cyfeiriwch. Mae son am un Gruffudd Llwyd o Dregarnedd ym Mon yn amser Iorwerth I. Dywedir fod y Grufîydd hwnnw yn wyr i Ednj'fed Fychan, a'i fod wedi ei wneyd yn farchog gan Iorwerth pan ddaeth a'r newydd iddo i gastell Rhuddlan am enedigaeth ei fab yng Nghaernarfon. Dywedir iddo ar ol hyn ddigio wrth y Saeson, gyda'r rhai yr oedd wedi bod yn gyfeillgar gynt, a*i fod wedi ceisio codi gwrthryfel i'w herbyn, ond ei fod wedi ei orchfygu a'i garcharu yng nghastell Rhuddlan. Mae ei garchariad yn y castell hwnnw yn destyn cwyn y bardd Gwilym Ddu, a dywed fod yr haf heb brydferthwch a*r wlad yn brudd oherwydd carchariad y " Llew o Dregarnedd." Nest.—Os ewch i chwilio hanes unrhyw un ddaeth yn enwog, waeth mewn pa faes yr enwogodd ei hun, cewch fod yn ei hanes aberth ac ymdrech. Mae yr hyn ddywedwch yn gwneyd i mi feddwl am ystori ddarllennais yn rhywle am arlunydd oedd yn synnu pawb â phrydferthwch lliw neilltuol yn ei ddar- luniau. Ceisiai arlunwyr ereill ei efelychu yn hyn. Ond ofer oedd eu holl ymdrechion ; ni lwyddent byth i gael y lliw oeddynt yn edmygu gymaint. Ceisiwyd cael cyfrinach ei gymysgiad gan yr arlunydd, ond ni ddywedai ef wrth neb. Ond bu farw, a chafwyd mai cyfrinach y lliw rhyfedd a phrydferth oedd bod yr arlunydd yn arfer ei gymysgu gyda'i waed ei hun. Goronwy.—Yr oedd yn beth digon cyfîredin rhoddi anrheg i"r meistr tir, yr hyn oedd yn dra thebyg i lwgr-wobrwyo. Y mae gan un hen fardd Saesneg, oedd yn byw tua'r flwyddyn 1575, rigwm fel hyn am y peth,— "And when the tenants come To pay their quarter's rent, They briner some fowl in Midsummer, A dish of fìsh in Lent; At Christmas a capon, At Michaelmas a goose, And somewhat else at New Year's tide For fear their lease fly loose." Aethwy.—Llyfr Richard Morgan,—" Tro trwy'r Wig,"—ydyw'r goreu yn Gymraeg a wn am dano ar y pethau a holwch yn eu cylch. Bachgen o'r Ysgol Ganolraddol,.—Ie, Çuercus robur ddylasai fod, nid " robus;" yn y rhifyn cyn y diweddaf.