AT Y PLANT. W. Cewch farddoniaeth i'r tymhorau yn Awdl Eben Fardd i'r " Flwy ddyn.'' Dyraa fel mae yn cyfarch yr Haf,— "Awen, huda Fi yn rhwyâd i fewn i'r ha, Nid oes fl'erf linell derfyn Im' rhwng y tymhorau hyn; Ha mwyn drwy wanwyn wena, A rhed y Gwanwyn i'r Ha." Yn Saesneg cewch " The Seasons y bardd Ysgotaidd Thomson. gan Idwal. Wedi i mi roddi i chwi y nodyn ar enw'r friallen yn yr Almaen, deuais o hyd i"r traddodiad canlynol yn egluro paham y mae yn cael ei alw yn flodeuyn yr allwedd. Dywed traddodiad fod yn perthyn i'r friallen allu i ddat- guddio trysorau cudd. Byddai duwies o'r enw Holda yn dewis rhyw fod dynol oedd yn hoffi, ac yn ei ddenu drwy gyfrwng y blodeuyn prydferth at ddrws wedi ei orchuddio â blodau. Drws castell o dan ddylanwad swyn gyfaredd oedd hwn. Ar gyffyrddiad blodeuyn yr allwedd, mae'r drws yn agor, a mae ffafrddyn y dduwies yn cael ei arwain i mewn i ystafell lle y mae nifer o gistiau yn llawn o aur a thlysau, a'r oll wedi eu gorchuddio â briallu. Ar ol cymeryd meddiant o'r trysor, yr oedd rhaid rhoddi y briallu yn ol yn ofalus, neu dilynid yr un oedd wedi ei gael gan gi du ar hyd ei oes. Bob. Oes, mae cyfaddasiad o Law-fer Pitman i'r Gymraeg, a chewch ef yn " Llawlyfr Ffonograffia " gan y diweddar Barch. R. H. Morgan, M.A. Mae hyd yn oed Gymdeithas Law-fer Gymraeg, a chanddi gylchgrawn Llaw-fer yn dod allan bob mis. Mae pob manylion i'w cael oddiwrth yr ysgrifennydd,— Mr. R. Prys Griffith, 12 Bennison Drive, Lerpwl. Un o'r Shir. Dyma'r hen rigwm holwch am dano am Sir Faesyfed,—- " Radnorsheer, poor Radnorsheer, Never a park and never a deer, Never a Squire of fìve hundred a year But Richard Fowler of Abbey Cwmhir." Rhydd Bradley, yn ei " Highways and Byeways of South Wales," yr eglurhad a ganlyn ar y rhigwm,—Ei fod wedi ei ysgrifennu gan ryw ddirprwywr oedd wedi cael ei anfon gan y Seneddwyr i chwilio am y dirwyon ar eiddo'r Brenhin- wyr. Ond yr oedd eiddo o'r fath yn brin yn Sir Faesyfed, ac wele gŵyn y Comisiwnar. Ceridwen. Gofynnwch am ystyr y gair " Clera." Yn yr hen amser, byddai y beirdd yn mynd ar daith drwy y wlad, unwaith bob tair blynedd, i hel hanes y genedl er ei gadw ar gof, a dyma fel y daeth llawer o'n hanesiaeth i ni. Yr oedd cosp ar y beirdd os na fyddai iddynt wneyd nodiad cywir o'r gwahanol ddigwyddiadau, ac nid oedd gan fardd hawl i osod i lawr hanes brwydr os nad oedd wedi bod yn llygad-dyst ohoni ei hun. Mair. Yr oedd hen goel ers talwm bod rhinwedd yn yr ysgaw rhag y mellt, ac os byddai i un gysgodi dan goeden ysgaw ar ystorm o fellt a tharanau, y byddai yn hollol ddiogel.