Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. <3 &* AYNOR. Yr oeddwn yn gwrando ar bregeth i blant ers ychydig amser yn ol, ac yr oedd y pregethwr yn son am y duedd sydd ynnom i farnu gwerth rhywbeth wrth ei ymddanghosiad allanol. Ond ambell dro mae un mwy craff a sylwgar yn dod heibio, ac yn cael hyd i'r trysor tu ol i'r allanolion sydd yn ymddangos mor ddiwerth. Daeth a'r coal tar fel engraifft. Peth yn aros ar ol wedi gwneyd nwy ydyw'r coal tar, ac yr oedd yn cael ei gyfrif yn wâst ac heb ddefnydd o gwbl iddo. Ond daeth gwr o'r enw Faraday heibio, a darganfyddodd nifer o drysorau yn y wâst yma. Yn gyntaf yr oedd nahptha i'w gael o hono, yr hwn sydd yn cael ei ddefnyddio at amryw o bethau. Yna ceid creosote o hono, yr hwn sydd yn dda i'w roddi hyd goed i'w cadw rhag i'r tywydd eu pydru. Yn nesaf ceid Iliwiau prydferth, yr aniline dyes. Ac yn bennaf oll, ceid o hono y peth hwnnw a elwir saccharine. yr hwn sydd ryw nifer lawer o weithiau yn felusach na siwgr. Ac felly o'r defnydd anolygus, y coal tar, yr oedd defnyddioldeb, ac hyd yn oed prydferthwch a meluster, yn cael eu tynnu. A ydych yn gweld cymhwyster y bregeth ? Beth am y cymeriadau a elwch yn anolygus, a beth am yr Un all ddadlennu'r pryd- ferthwch a thynnu y meluster allan ? D.R. Gwir iawn nad yw'r Beibl yn colli ei swyn i Gymro. Yn rhifynnau nesaf Cymru adroddir hanes llyfrau yr Hen Destament a'r Newydd, a rhoddir cipolygon tra dyddorol ar yr Aifît a Chanan gan lenor sy'n gwybod yn dda am y ddwy wlad. Cymro Bach. Yr Alban feddylir wrth yr ymadrodd " The Land o' Cakes," a bara ceirch ydyw'r teisennau hynny. A ydych wedi eich siomi ? A oeddych yn meddwl mai teisennau mwy danteithiol a olygid ? Bob. A glywsoch chwi hanes y bachgen cloff achubodd fywyd yr eneth fach ? Cewch ef mewn darlun ar y tudalen nesaf. Emrys. Clywais y rheswm canlynol yn cael ei roddi dros gadw pysgod yn y pwll dwfr fyddai o flaen bron pob hen westy ers talwm. Yr oedd pobl yn credu fod y lladron pen fîordd yn arfer pob ystrywiau er gwneyd i'r goach fawr dorri i lawr ar ei thaith. A rhag ofn iddynt wenwyno y pwll dwfr lle y byddai y ceffylau yn cael eu diod, cedwid pysgod ynddo ; oherwydd, os gwelid y pysgod yn nofio yn y pwll, yr oedd yn sicrwydd fod yn ddiogel adael i'r cefîylau yfed o hono. Marged. Dyfalbarhad, dyfalbarhad, ac eto ac o hyd, dyfalbarhad. Dyma gyfrinach pob llwyddiant, Marged ; hebddo, waeth faint o athrylith. Mae llawer dyn o athrylith wedi bod yn y byd, ac wedi mynd o hono, heb adael dim ar ei ol i brofì hynny, a'r oll o ddiffyg y nodwedd hwn. Os darllenwch fywgraffiadau dynion enwog, cewch eu bod, heb eithriad, yn meddu ar ddyfal- barhad di-ildio. Dyna fi wedi rhoddi pregeth fach i chwi, a chaf wybod ei hefîaith ryw ddiwrnod, oni chaf ?