Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ■£*sr ARWR CERDD. Fel y sylwch, mae canu wrth weithio yn ychwanegu at ddyddordeb ygwaith. Byddai mwy o hyn yn yr hen amser. Dywed un ysgrifenwr y byddai'r hen ddarlunwyr ar y Cyfandir, pan yn paentio pobl wrth ryw waith, yn eu dar- îunio a'u genau yn agored,—yr oeddynt yn canu wrth eu gwaith. Mae amryw hen ganeuon hefyd yn aros fyddai yn cael eu canu gnn bobl wrth weithio ; gan y llongwr wrth godi'r angor, gan y pyegotwr wrth dynnu'r rhwyd, ac yr oedd cân i'r am- aethwr ganu wrth dorri y gwys, ac ì'r ferch wrth y droell. Mae y caneuon hyn wedi distewi bron i gyd, mae lle i oíni; ond clywais y dydd o'r blaen am arferiad ymhlith y genethod mewn gweithfa sebon yn Lloegr o ganu rhan ganiadau fpart iongs) tra wrth eu gwaith, a dywedir fcd perchenogion y gwaith yn ceínogi'r arferiad, gan dybied ei fod yn torri ar unffurfìaeth gwaith y genethod. D.R. '' Parthau'r bedd " ysgrifennodd Ieuan Glan Geirionnydd. Cam-argraif )rthau'r bedd." Nid yw " porthau'r bedd " yn gywir ychwaith ; " pyrth oedd'' porth y bedd " ysgrifenasid. Blodwen. Gofynnwch i mi, megis gwnai y llyfrau hynny,—" Beth yw eich hoff nodwedd mewn cymeriad?" Rhoddaf fìnnau i chwithau y beddargraff canlynol oddiar fedd geneth ieuanc yn yr Alban,— "Yr oedd yn garedig wrth mawh." Anibynnol. Gan eich bod o blaid rhoddi lle blaenllaw i ferched ym mhob maes, feallai y bydd yn gysur i chwi ddeall nad ydynt yn cael eu diystyrru gymaint ag y tybiwch, yn yr Amerig o'r hyn leiaf, gan fod un ferch, beth bynnag, yn gweith- redu fel barnwr mewn tref o'r enw Evanston yn y wlad flaenllaw honno. Holwr. Gwyddoch mai y rhai a wnaeth y ffyrdd cyntaf ym Mhrydain Fawr oedd y Rhufeiniaid. Gwyddoch hefyd nad oedd eu hail am wneyd ffyrdd, a bod rhai o'r ffyrdd wnaethpwyd ganddynt yn aros hyd heddyw. Gyda golwg ar ffyrdd ein dyddiau ni, mae y geiriau macadam a macadamiu yn dod oddiwrth enw dyfeisiwr y dull hwn o wneyd ffordd, sef un John McAdam, Ysgotyn a anwyd yn Ayr, yn y flwyddyn 1756. Bu wrthi am flynyddoedd yn ceisio gwneyd y ffyrdd yn well, a dywedir iddo wario £5,000 o'i arian ei hun ar y gwaith, gan nad oedd ei gynlluniau yn cael cefnogaeth o gwbl gan y cyhoedd, ond yn hytrach eu gwawdio. Fodd bynnag, llwyddodd o'r diwedd i gael gan y Senedd ystyried ei waith, a chafodd gydnabyddiaeth helaeth. Yr oedd ei gynllun yn eithaf syml, sef gosod haen ar ol haen o gerrig mftn, y rhai oedd yn gweithio i'w gilydd ac yn mynd yn gadarn fel craig. Dywedir i McAdam drafeilio 30,000 milltir tra yn gwneyd ei ymchwiliadau ynglỳn â'i waith ar ffyrdd y wlad.