Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. IWAEEUWR. Fel y tybiwch, uiae yr hen chwar- euon i blant yn dod i lawr o ddyddiau pell iawn, ac mae y rhai mwyaf poblogaidd i'w cael ymhlith gwahanol genhedloedd. Dywedir fod mwgwd yr ieir yn cael ei chwareu gan blant Groeg a Rhufain, a bod darluniau ohonynt yn chware i'w cael mewn hen law ysgrifau. Mae chware ymguddio hefyd yn hen iawn. Geilw Shakes- peare ef yn '' Hide fox and all after." Ac mae'r ystori ar lafar gwlad Lloegr a Ffrainc am y briodasferch honno, ar ddydd ei phriodas, yn chwtfre ymguddio, ac yn cau ei hun mewn hen gist dderw er mwyn bod o olwg y rhai oedd yn ei cheisio. Ymguddiodd yn rhy ddiogel rhag- ddynt, oherwydd methodd ag agor y gist. ac ni ddaethpwyd o hyd iddi, a bu farw yn yr hen gist. Dywedir fod gan y Raffir bach chware tebyg i'r un fydd plant Cymru yn alw "cîs,'' a'r Saeson " touch." Mae un plentyn yn taraw nn arall yn ysgafn â'i law, yna yn rhedeg i ffwrdd, ac mae'r un a darawyd yn ceisio taraw un arall ; ac felly o hyd, yr un fydd yn cael ei daraw yn ceisio taraw yn ol, a'r lleill yn ceisio ysgoi y tarawiad drwy redeg o amgylch. Bein'. Y7dyw, mae astudio diwydiamiau gwledydd tramor yn dra dyddorol. 0 Dwrci y daw y carpedau gore, y rhai mwyaf prydferth a drudfawr, ac mae wedi bod felly ar hyd y canrifoedd. Dywedir mai o'r dwyrain y daeth gyntaf y drych- t'eddwl am orchuddio'r llawr â charpedau, ac mai rhyfelwyr y Groes ddaeth a'r rluii cyntaf i Loegr yn y canol oesoedd pan yn dod yn ol o'r rhyfeloedd. Cyn hynny, gwellfc a brwyn fyddai yn cael eu taenu dan draed yn yr anedd-dai. Mae y carpedau ddaw o Dwrci yn dra drudfawr ; oud pan yr ystyrrir ei fod yn cymeryd i dri dyn flwyddyn i wneyd un carped o faintioli cyffredin, nid rhyfedd fod y pris yn uchel. Idhis. Deuais ar draws y canlyn y dydd o'r blaen, ac feallai y bydd iddo eich dyddori fel desgrifiad y bardd Ysgotaidd Thomson o ystorm ar y Wyddfa, wedi ei ysgrifennu yn y dyddiau pan nad oedd y teithiwr Seisnig mor adnabyddus yn ein gwlad ag ydyw yn awr,— " Amid Carnarvon's mountains rages loud The repercussive roar. With mijrhty crush, Into the flashins deep from the rude rocks Of Penmaen Mawr, heaped hideous to the sky, Tumble the smitten cliífs; and Snowdon's peak, Dissolving, instant yields his wintry load." Yr wyf yn cyfeirio eich sylw yn arbennig at y ddau air " repercussive roar." Gaynor. Dyma i chwi beth ddj'wed Dr. Johnson, gẁr a ddiodùefodd lawër oddiwrth amgylchiadau celyd ar un adeg o'i fywyd, —" Mae medru arfer edrycli bob amser ar yr ochr oleu yn werth mil o bunnau yn y íìwyddyn i'w berchennog." |J>eth fyddai i chwi geisio dod i feddiant o'r arferiad hwnnw ? Gwnai wahaniaeth mawr yn eich bywyd ; ac nid yn unig yn eich bywyd chwi, ond ym mywydau y rhai o'ch amgylch. Mae yr arferiad yma fel yr heulwen, yn goreuro poperh mae yn cyffwrdd àg ef.