Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ** PEDR WYN. Mae llawer o hanesion yn cael eu dweyd ani ddefnyddioldeb dalen poethion. Dywedir y byddent, ar un adeg, yn cael eu defnyddio i wneyd llian, ac y byddai cynfasau a llieiniau byrddau yn cael eu gwneyd ohonynt. A haerid ei fod yn gryf a pharhaus tuhwnt i bob Úian arall. Gwyddoch am yr hen goel ynghyich y modd i wella cyffyrdùiad y dail poethion â'r croen, sef cymeryd dail tafol a'u rhwbio ar y lle clwyfedig. Ond feallai na chlywsoch am gymeryd bwnsiad. o ddalen poethion a churo un oedd yn dioddef gan y crydcymalau yn ysgafn âg ef. Dywedir fod hon yn un hen feddyg- iniaeth i'r afiechyd hwnnw. Idwal. Buaswn yn meddwl mai lle campus i ollwng eich barcud ydyw'r Cae Hir. A buaswn yn caru bod gydachwiyno, Idwal, ar ryw brynhawn pan fyddo'r awel iach yn ddigon cryf i fynd a'r barcud bron o'r golwg. Peidiwch a chwerthin. Bydd pobl wedi tyfu i fyny yn gollwng barcud hefyd. Welsoch chwi yr un erioed, meddech. Naddo, yn y wlad hon, feallai; ond pe baech yn mynd ryw dro i'r wlad hudolaethus honno, lle mae nhw'n tyfu coed eirin a cheirios er mwyn eu blodau, ac nid er mwyn eu ffrwyth,—Japan wyf yn feddwl,—cewch weld dynion wrthi hefo barcud gyda'r un difrifwch ag y gwelwch hwynt yma yn cicio'r bêl droed neu yn chware cricet. Cebdyn Nadolig. Dyma yr hyn sydd yn cael ei ddweyd am y Ddraenen Santaidd. Daeth Joseph o Arimathea i Brydain i bregethu'r efengyl, a phan yn Grlastonbury, wrth geisio troi y brenin i'r ffydd G-ristionogol, tarawodd ei ffon,— oedd wedi ei thorri oddiar ddraenen,—yn y ddaear ; a gorchymynnodd iddi ddeilio a blodeuo. Yr oedd hyn ar adeg y Nadolig. A byth er hynny, ar yr un adeg honno, mae'r ddraenen yn torri allan i flodeuo. D. R. Yr wyf yn meddwl y cyhoeddir argraffìad y diweddar Isaac Foulkes o lythyrau a barddoniaeth G-oronwy Owen yn Swyddfa'r Brython, Lerpwl. Cyhoeddir hwy hefyd yng Nghyfres y Fil gan R. E. Jones a'i Frodyr, Argraffwyr, Conwy. Nis gwn íle gellwch gael Celtic Remains Lewis Morris. Cystadleuwyr y Llythyrau. Cafwyd cystadleuaeth gampas, pob llythyr yn dda, ac yr oedd yn anodd pigo'r goreuon. Ond y gore yw Eddie Parry, a'r ail Nefydd. A wneiff y ddau anfon eu henwau priodol? Ceir ychwaneg o hanes y gystadleuaeth eto. Bob. Y mae a fynno tri â gwneyd deddf, rhaid cael cennad tri cyn ei phasio. Y tri ydyw y brenin, Ty'r Arglwyddi, a Thy'r Cyffredin. Os pasia deddf drwy'r ddau Dy, ni fydd y brenin byth yn ei gwrthod; ni wnawd hynny er dyddian William III. Ar y ddalen nesaf cewch lun y brenin yn Nhy'r Arglwyddi.