Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. FARDDONIAETH. Cewch y llinellau,— " Ei flew o sidan newydd, A'i rawn o liw gwawn y gwydd; Llygaid fal dwy ellygen, Llymion byw yn llamu'n ei ben," yng nghywydd Tudur Aled, "i ofyn niarch i abad Conwy." Ni chewch ddesgrifiad o farch tebyg iddo am brydferthwch a ffyddlondeb. Garddwr. Gwelais sylw mewn misolyn yn ddiweddar sydd yn cadarnhau yr hyn ddywedwch parthed deinyddioldeb chwyn, ac yn mynd yn hollol groes i bob traddod- iad. Yr oedd gan yr ysgrifenwr wely o fefus yn ei ardd. Cadwodd ran o hono yn hollol rydd a glàn oddiwrth chwyn, ond gadawodd y darn arall heb ofalu rhyw lawer yn ei gylch. Pan ddaeth adeg y ffrwyth, cafodd yn y rhan oedd wedi ei adael well mefus, a mwy o gnwd ohonynt, nag yn y darn oedd wedi ei chwynnu. I gyfrif am hyn, credai fod y chwyn wedi gweithredu fel cysgod i #adw pelydrau rhy danllyd yr haul rhag y gwreiddiau. A'r un modd y profodd hefo phytatws; cafodd well crop yn y lîe yr oedd wedi gadael i'r chwyn dyfu. Chwiliwr. Pennant sydd yn galw Castell Caernarfon " the most magnificent badge of our subjection." Yr oedd Pennant yn garwr ac yn edmygwr ei wlad a'i genedl, ac mae hanes ei daith drwy Gymru yn y flwyddyn 1773 yn llawn swyn a dyddordeb. Mae ganddo ystori neu gân am bob hen furddyn ddaw ar ei draws ar ei ffordd drwy y wlad. Ymofynydd am lyfr. Buaswn yn tybied y buasai llyfr D. E. Jenhins, yng Nghyfres Milwyr y Groes, ar James Gilmour y peth ydych yn geisio. Mae yn llawn dyddordeb, ac yn ennyn ynnom frwdfrydedd at y maes cenhadol. Hogyn o'r dre. A ydych chwi yn gwybod yr hen draddodiad am fel y cafodd y driw ei alw'n frenin yr adar'r Dywedir fod ymrafael wedi cymeryd 11 e unwaith ymhlith yr adar gyda golwg ar pwy gaffai fod yn ben, a phenderfynwyd mai yr aderyn fuasai'n ehecleg uchaf fuasai yn cael ei alw'n frenin. Heb yn wybod i'r eryr, gosododd y driw bach ei hun ar ysgwydd yr olaf. ac felly, meddir, y eafodd yr enw. ()nd nid yng Nghymru'n unig, fel y tybiwch, yr oedd yr arferiad creulon o hela'r driw yn ffynnu. Gwneid yr un peth yn yr Iwerddon ac yn Ynys Manaw. Yn y lle olaf, byddant ar ddydd St. Stephen yn llabyddio y creadur bychan diniwed, fel y llabyddiwyd y merthyr ei hun. Dywedir fod yr arferiad wedi cychwyn drwy i ddewines, yr hon oedd wedi swyno nifer o bobl yr ynys i'w diwedd, wedi dianc o afael y dorf hanner gwallgof oedd wedi ei dal ac ar fedr ei rhoddi i farwolaeth, mewn ffurf driw, a'i bod, ar ol hynny, fel cosb am ei phechod, yn gorfod cymeryd ffurf driw bob dydd Calan, ac mai ceisio diwedd y ddewines y byddent pan yn erlid yr aderyn ar y diwrnod hwnnw. Dywedir fod yr arferiad yn dal o hyd mewn rhai mannau, ond yr wyf yn hwyrfrydig i gredu'r fath beth.