Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. YMA fis Gorffeunaf a mis Awst o'u blaenau,— misoedd gwyliau'r haf. Buaswu yn caru i cliwi ysgrifennu llythyr yn rhoddi hanes pa fodd y bu i chwi dreulio'r wythnosau hyn, a'i auf'on i mi erbyn y dydd cyntaf o Hydref. Carwn i chwi ddweyd wrthyf yr hyn a wnaethoch yu y wlad ac wrth lan y môr, neu gartref yn eich pentref neu eich tref eich hun; pa goed welsoch yn llawn dail, pa flodau welsoeh yn tyfu, a pha adar glywsoch yn canu. Am y llythyr gore, bydcl gwobr o lyfr i'w gael, a'r un modcl am yr ail ore. Dic. Vr ydych yn iawn. Mae gwahan- iaeth mewn lleisiau pobl o wahanol genhedl- oedd Nid oedd wedi fy nharo hyd y dydd o'r blaen, pan y dywedwyd wrthyf gan frodores o Fframc f<>d fy llais yn tebygu mwy i leisiau ei chydwladwyr nag oedd lleisiau y Saeson o'i chwmpas. Yr oedd yn methu cysoni hyn, a holai fì a oedd gennyf waed Ffrengig ynnof. " Xa," meddwn, " Cymraes ydwyf." " Celtic! " a gwenodd. Yr oedd hyn yn cyfrif iddi am y gwahaniaeth. IIooyn Ysgol. Yr wyf yn deall eich teimladau. Ond beth allwch wneyd r \i allwch ddwey«l wrth yr athraw fod y ddau fachgen yn copio eu gwei'si y naill oddi ar y llall. Ar yr un pryd, fel y dywedwcîi, nid ydyw yn deg, a dyna Ue mae'r peth yn gwasgu, i chwi ac i'r bechgyn ereill sydcí yn gweithio yn ouest. ir — j — 0 .. —0 .-, ...... . -------------^_ i >nd cewch gytìawnder i gyd ddydd yr arholiad. Nid Plentyn. Peidiwch esgusodi eich hun am ysgrifeunu. Mae Uythyr oddiwrth un o'r " grown ups " yn dderbyniol bob amser. Yr wyf o'r uu farn a chwi ynghylch llyfrau Thomas Love Peacock. Maent yn llawn o'r arabedd mwyaf miniog. Yr wyf yn meddwl fod un ohonynt, "The Misfortunes of Elphin," wedi ei roddi fel testyn i'w gyfieithu i'r Gymraeg yu yr Listeddfod Cenhedlaethol rai blynyddau yn ol. Yr wyf yn credu mai " Maid Marian," o'i lioll lyfrau, fydd yn fy swyno fwyaf. Mae y desgritìad o honi hi a'r mynaeh yn canu, a digter ei thad ar yr achlysur, yn ddigrifol i'r eithaf. Dyddorol hefyd ydyw cymharu " Maid Marian " àg ystori Seott, y "Talisman," sydd yn ymdrin â'r un cymeriadau hanesyddol, a sylwi fel mae dau feddwl gwahanol yn gweithio hefo'r un defnydd. Anfoddog. Deuais ar draws y sylw yma yn un o lyí'rau George Borrow y dydd o'r blaen. Yr oedd yn cydgordio à fy nheim!«d ar y pryd, ac yr wyf yn ei gyflwyno 1 chwi. ('eisiais ei droi o'r Saesneg, ond mae ei swyn mor wibiog,— " I.ife is sweet, brother, there's day and night, brother, both sweet things ; sun, moon, and stars, all sweet things. There's likewise tlie wiud on the heath." Carwu Blodau. Y* " Pimpernel " sydd yn cael ei alw yn " Oriawr y Bugail," oherwydd y bydd yn cau yn brydlon ddeuddeg o'r gloch, ac waeth mor deg y byddo'r dydd, ni egyr hyd saith bore drannoeth. Mae hefyd yn fyw i gyfnewid- iad yn y tywydd, a geìwir ef " The poor man's weather glass" mewn rhai mannau, am y bydd yn cuddio ei ddalennau gwridog yng nghysgod ei ddail pan fydd cawod yn agoshau. Mae yn ei lawn flodau y mis hwn.