Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ^. LODWEN SIR FOX. Nis gwn paham y gelwir y blodeuyn bach y buoch yn holi am dano o'r blaen weithiau yn Veronica. ]\íae hen draddodiad ynglýn â'r enw Yeronica. Dywedir fod gwraig a'i henw Berenice, neu, fel y newidiwyd ef gan y Rhufeiniaid, Yeronica, yn byw ar y ffordd i Galfaria, a phan aeth yr Arglwydd Iesu heibio yn lluddedig gan bwysau'r groes, iddi gymeryd ei gorchudd a sychu'r chwys oddi ar ei wyneb, a bod delw o wyneb y Gwaredwr wedi aros ar y gorchudd. Dyma hefyd, meddir, ydyw ystyr yr enw,—vera icon,—"y wir ddelw." Dywedir fod y gorchudd ar ol hynny wedi dod i feddiant Eglwys Rufain, a'i fod yn cael ei ddangos fel un o'i chreiriau mwyaf sancLaidd. Goronwy. Os craffwch ar hanes dynion enwog, cewch bob amser eu bod yn ineddu penderfyniad meddwl cryf, ac ynglỳn âg ef diwydrwydd, neu y gallu hwnnw i gymeryd trafferth a phoen, nes cyrraedd yr hyn maent wedi benderfynu arno. Yn aml mae hyn yn cael ei ddangos yn fore. Y dydd o'r blaen yr oeddwn yn darllen hanesyn am Bach, y cerddor enwog, oedd i mi yn enghraifft o hyn. Pan oedd Bach yn ddeng mlwydd oed, bu farw ei dad a"'i fam, ac aeth i fyw gyda brawd hỳn nag ef, yr hwn oedd yn organydd mewn tref neilltuol yn yr Almaen. Rhoddai y brawd hynaf wersi ar y clavtet\ math o berdoneg, ì'r plentyn, a daeth ei athrylith i'r golwg ar tmwaith. Yr oedd cyn pen ychydig iawn yn gallu chware ei wersi oddiar ei gôf, a dyheai am gael dysgu chware darnau mwy anhawdd. Ond nid oedd ei frawd yn foddlon iddo fynd ymlaen mor gyflym. Yr oedd ym meddiant yr olaf lyfr o ddarnau gan nifer o gyfansoddwyr enwog, a chwenychai y brawd ieuengaf yn fawr gael y llyfr i'w feddiant am ychydig, er mwyn eu dysgu. Ond nid oedd y brawd mawr yn garedig wrth y bychan, a gwaharddai iddo ymyrryd â'r llyfr. Fodd bynnag, yr oedd penderfyniad y tychan yn drech na'r cyfan,—llwyddodd gyda'i ddwylaw bach i dynnu y llyfr rhwng drysau y cwpwrdd lle y cedwid ef; ac yn y nos, heb yn wybod i neb, wrth oleu'r lloer, copiodd hoil gynhwysiad y llyfr. Cymerodd y gwaith chwemis ; ac wedi'r cwbl, pan ddeallodd y brawd sarrug yr hyn oedd y plentyn wedi wneyd, bu mor greulon a chymeryd odd arno y trysor oedd wedi ennill gyda chymaint o ddiwydrwydd a hunanymwadiad. Fpanni. Anaml, fel y dywedwch, y clywir am ferch yn astudio seryddiaeth. Mae merched ya ymyrryd â phob cangen bron yn y dyddiau yma ; a pheth sydd i gyfrif am y diffyg atyniad at y gangen hon o ddysgeidiaeth, mae yn anhawdd penderfynu. Gan y dywedwch na wyddoch am yr un ferch yn ein dyddiau ni sydd yn cymeryd dyddordeb arbennig mewn seryddiaeth, hwyrach y carech wybod fod yn yr America ferch yn dwyn swydd uchel ym Mhrifysgol Harvard, a'i bod, rhyw ychydig amser yn ol, wedi ei hethol yn aelod o'r Royal Astronomical Society yn Llundain. Wilhelmma Fleming ydyw ei henw, ac mie yn enedigol o Dundee.