Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ^r WIL. Dyma'r unig linellau wyf yn fedru o'r hen gân yr wyf yn meddwl y cyfeiriwch ati,— " Hiraeth dwfn a hiraeth creulon, Hiraeth sydd bron torri 'nghalon ; Pan fwy dryma'r nos yn cysgu, Fe ddaw hiraeth ac fe'm deffry." Yr wyf yn credu fod y ddwy linell ganlynol hefyd yn perthyn iddi,— " (Iwasgod goch o doriad calon. A chrys brith o groes-feddyliau." Feallai y gall rhywun gyfìenwi'r gweddill. Un eisiei- gwybod. Dani o aur gwerth 25/- oedd y dernyn eiwid Jacobus; bath- wyd ef, fel y dengys yr enw, yn amser Iago I. Blodai'r Gwaxwyx. Ceniuen Pedr y byddai pobl sir Gaernarfon yn galw'r daffodil. Mae amryw ganeuon i'rblodeuyn yma yn yr iaith Saesneg. Mae gan y bardd Eli/.abethaidd Iierrick un iddo. Ei ddychymyg ef ydyw mai rhianod ydyw'r daffodils wedi eu troi yn flodau melyn am f ocì yn eiddigeddus, — •' Yellow turned for jealousy." Dros fôr a thir. Meddwl yr ydych am yr hen ystori am y " pibydd brith." Dyma'r ffeithiau (os ffeithiau hefyd),—Yn y flwyddyn 1824 yr oedd Hamelin, rref ar yr afon Weser yn yr Almaen, yn caei ei blino gan bla o lygod Ffreinig, neu fel y dywedwn bob ciydd, "llygod mawr." Ceisiodd y trigolion eu clifa ym mhob ffordd y gallent feddwl am cìani, ond ofer oedd eu holí ymdrechion, ac ofnwyd y byddai raid iddynt i gyd adael y clref. Ond un diwrnod, fodd bynnag, dae'th at y Cyngor Tref (neu y gwỳr oedd yn gweithredu felly, beth bynnag y gelwid hwy yn y dyddiau hynny), ddyn a gwisg fraith ryfedd am dano. Yr oedd ganddo bib yn ei law, a chynhygiodd, am swm neilltuol o arian, ganu ei bib yn y fath fodd, fel y dilynai pob llygoden fawr ef i'r afon Weser. Seliwyd y fargen ar unwaith, a chyílawnodd y pibydcl brith ei ran o honi yn gywir, a boddwyd pob llygoden yn y dref yn yr afon Weser. Ond nid oecid y Cyngor mor gywir. Wedi cael ym- adael a'u poenydwyr, yr oeddynt yn ddiofal o dalu i'r un oedd wedi eu gwaredu oddiwrthynt. Pan weiodd y pibydd brith nad oedd y Cyngor am gadw at eu haddewid, aeth ymaith heb ddadíeu mwy â hwy. Ond ar y 25ain o'r Mehefin dilynol, talodd ail ymweliad â'r dref ; a chan gerdded di'wy yr ystrydoedd, canodd ganeuon dieithr a hudolaethus ar ei bib, nes denu holl blant bach y dref i'w ddilyn. Gan ganu o hyd ar y bib yr alawon mwyn, arweiniodd hwynt at fynydd y Kupelberg, ac agorodd drws bychan yn ochr y mynydd, ac aeth y plant i mewn i gyd ond un. yr hwn oedd yn gloff, ac oherwydd hynuy, ni allai redeg yn ddigon buan, ac yr oedd y drws wedi cau ar y j>ibydd a'r plant ereill cyn iddo allu cyrraedd. Dywedir y byddai pobl y dref yn dyddio pob amgylchiad, am amser maith ar oí hynny, o'r digwyddiad hwn.