Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ** LODWEN SIR FON. Yn Saesoneg, gelwir y blodeuyn bach gias y cyfeiriwch ato y speedwell. Mae i'w gael yn y cloddiau tua dechreu haf. Gelwir eí hefyd yn veronica. Cewch hyd i'r planhigyn rhyfedd hwnnw fydd yn bwyta gwybed,—y sundew, " clust yr arth,"—mewn corsydd yn rhai mannau yn eich sir eich hun. Am y bysedd cochion, gwyddoch mai yr enw Saesoneg arno ydyw foxglove, a dywedir mai yr unig iaith arall a'i cysyllta â'r gair "fox" ydyw'r Norwegaidd. Yn honno gelwir hwy yn " Reve-belde," hynny yw, clychau'r llwynoír; a " Reve-licka," cauu'r llwynog. Dywedir ymhellach mai'r hen enw Saesoneg oedd " foxes-glew." Hen offeryn cerdd oedd y " foxes-glew." Cadwen o glychau oedd wedi ei osod ar fí'ou wedi ei chamu fel y gwelwch gangen o'r bysedd cochion yn plygu wrth i'r awel fyud heibio. Peentyn o Ltjndain. Dyma'r stori glywais y dydd o'r blaen aru y ceil o* rhedyn sydd uwohben y Royal Exchange. Dywedir i'ocì mam Syr Thomas Gresham, y gẁr ddarfu adeiladu yr tëschange gyntaf, yn fam anaturiol. Nid oedd yn caru ei baban, ac er mwyn cael ymadael íig ef, gadawodd ef yn unig rnt-wn cae, ac aeth ymaith. Cafwy.i hyd i'r baban, fodd bynnag, gan fachgen o fferm«iy gerllaw, yr hwn oedd yn dilyn ar ol ceiliog rhedyn, ac aeth a'r plentyn adref gydag ef, a magwyd ef yn garedig gan yr auaaethwr a'i wraig. Pan ddaeth Syr Thomas Gresham yn farsiandwr cyfoethog, a phan adeilado id yr Exchange, gosododd geiliog rhedyn mawr ar ei binacl uchaf er cof am ei gadwedigaeth pan yn îaban bychan diamddiffyn. Megan. Ydyw, mae yn anhawdd iawn gwneyd am ell beth yn ddeailadwy i arall. Dyma ddywedir oedd y modd gvmerodd un gŵr medrus i geisio egluro i Shah Persia, pan ar ei ymweliad â'r wlad yma, pa fodd yr oedd y pellebyr yn gweithio. " Os gwnaiff eich Mawrhydi ddychmygu," meddai, "nm gi mawr, mor fawr f'el ag i alluogi i'w gyuffon fod yn Llundain a'i ben yn Teheran. fe wel eich Mawrhydi, os bydd i rywun sathru ar ei gynffou yn Llundain, y bydd iddo gyfarth yn Teheran." Ymchwiliwh. Y gosb am wneyd arian drwg yn y ddeuddegfed ganrif oedd berwi yn fyw. Yr ydym wedi gwella gryn gwrs er hynny ; ond ychydig dros gan mlyneäd sydd ers pan grogid dyn am ddwyn dafad. Mair y Ffynnon. Nid yng Nghymru yn unig y gwelir Cymru'r Plant ar werth. Dywed cyfaill wrthyf ei fod wedi ei brynnu oddiar y boohstall yng ngorsaf Cape Town. Te. Mae yn ddiameu mai meddwl am Dr. Johnson yr ydych. Yr oedd yn hoff dros ben o gwpanaid o de, a dywe lir fod ei debot a'i gwpan yn cael eu dangos ymhlith trysorau Pembroke College, Rhydychen. IJn oedd yn gwybod gwerth amser oedd yr hen Ddoctor hefyd, ac yr oedd wedi argraffu ar wyneb ei oriawr,—' Mae y nos yu dyt'od pau na ddichon neb weithio."