Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ■^- LTJNED. Ydyw, mae yr ehedydd i'w glywed yn gynnar iawn. Yr wyf fy hun wedi ei gljTwed yn pynciouwcli fy mhen yn niwedd mis Tonawr. Gan eich bod mor hof£ o adar, bydd yn dda gennych wybod am yr hyn mae nifer o bobl garedig mewn rhan neiÚtuol o Loegr wedi wneyd er mwyn eu diogeln. Maent wedi prynnu llain o dir coediog i fod yn gartref iddynt. Galwant ef " Y Norìdfa," a noddfa yn sicr ydyw ì'n cyfeillion bychain. Mae rhybuddion wedi eu gosod i fyny o amgylch y llecyn, yn bygwth cosbi y neb a geir yn ymyryd a'r un o'r tngoìion asgellog, neu a'u nythod. Yn y gaeaf mae bwyd pwrpasol i adar yn cael ei roddi yno, a cheisir gwneyd y lle mewn gwirionedd yn noddfa ac yn baradwys i'r ereaduriaid anwyl a diuiwed hyn. Gwilym. Araeu bodolaeth eich arwr! Ond wyddoeh chwi, Gwilym, niai nid y gweithredoedd a'r gwrhydri honedig oedd y gwaith mwyaf wnaeth Arthur. Pe buasai heb fod, a phe dychymyg yr oll am dano, meddyhwch yr effaith mae wedi gael ar lenyddiaeth. Mae llenyddiaeth pob gwlad yn Ewrob yn ein dvddíau ni wedi derbyn swm helaeth o brydferthwch a swyn oddiwrth hanes dychmygol neu wir Arthur a'i farchogiou. A ehofìweh, heí'yd, mai effaith ddaionus, effaith aruchel, ydyw ei effaith ar lenyddiaeth. Yr pur, yr arwraidd, y godidog mewn cymeriad, sydd yn cael ei glodfori yng ngweithredoedd y brenin a'i ganíynwyr. AHLrNfYDi) v Cwm. Cewch hanes Richard Wilson yn y rhifyn nesaf. erthygl arno Avedi dod i law. Mae TJn Gwan. Ceisiwch fagu hunanddibyniad. Gwnewch bopeth a allwch drosoeh eich hunan. Peidiwch aros 1 rywun arall wneyd pethau i chwi. Pan y byddweh yiv dod at rywbeth anhawdd yn eich gwers, peidiwch a dweyd wrthych eich hun tra yn myn i heibio iddo'n frysiog,—" 0, mi ofynna i i William, mae o'n siwr o wybod." Chwiliwch y peth allan drosoch eich ìiun. Kitty. Cewch hyd i'r llinellau ysgrifenwyd yn eich alhnm,— "Teg yw dy wèn, gangen gu, Wyneb rhy deg i wenu,'' yn " Calendr y Carwr " Goronwy Owen. Maih y Mynyhd. Anghofiais ddweyd yn yr erthygl ar " Liwiau " fod lliw tanbaid wedi ei roddi i ambell sarff wenwynfg er rhybudd i ereill, megis cylch fflamgoch am y gwddf.