Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •^- ;W^ AM. Ni bydd clych Monachlog Westininster byth yn canu ond pan fyddis yn claddu rhywun o waed brenhinol. Nid yno y claddwyd Yictoria. Màrged. Peìdiwch a digaloni. Pender- fyniad a dyfalbarhad ydyw dirgelwch pob llwyddiant. Dyma i chwi hanesyn ddar- llennais y dydd o'r blaen yn un o lyfrau R. L. Stevenson. Mae yn ei adrodd am Gymro, cyfaill iddo, bachgen o ôf oedd yn byw mewn ardal wledig. Yr oedd yn 25 mlwydd oed, ac nid oedd yn gallu llythyren ar lyfr. Un tro, digwyddodd fod mewn ffermdy un hirnos gaeaf, ac yr oedd un o'r teulu yn darllen hanes ítobinson Crusoe yn uchel yn Gymraeg. Swynwyd y bachgen gymaint, fel y penderfynodd y mynnai ddysgu darllen er mwyn dod o hyd i ychwaneg o'r trysorau oedd yn y gyfrol. Pan oedd yn gallu darllen Cymraeg yn rhwydd, daeth yn ei ol i fenthyca y llyfr, ond erbyn hyn, yr oedd y gyfrol wedi ei cholli neu wedi ei benthyca gan arall, a dim ond copi Saesneg ar gael. Fodd bynnag, ni ddigalonnodd ; ond aeth ati drachefn i ddysgu yr ìaith estronol. Ac o'r diwedd, drwy amynedd a phenderfyniad, llwyddodd i allu darllen y llyfr yr oedd yn chwenychu gymaint wybod ei gynhwysiad. Bon Ty'n y Gongl. Ydwyf, wrth gwrs, yn cytuno a chwi mai alawon Cymru ydyw'r mwyaf prydferth yn y byd. Ond mae rhywbeth mwy na'u prydferthwch yn ein swyno ni, onid oes ? Un noswaith yr haf ddiweddaf, yr oeddwn yn digwydd bod yn cerdded drwy heol un o drefydd mawr Lloegr. Nos Sadwrn oedd, ac yr oedd mwy nag arfer o bobl yn rhuthro o gwmpas. Ond yn sydyn, trwy'r trwst a'r berw, disgynnodd ar fy nghlust nodau dengar "LlwynOnn." Edrychais o fy amgylch mewn syndod, ac ychydig oddiwrthyf gwelais dorf o aelo'dau Byddin yr Iachawdwriaeth yn cynnal gwasanaeth, ac yr oedd yr emyn gyntaf roddwyd allan yn cael ei ganu ar yr alaw Gymreig. Nis gallwn symud ymlaen nes oedd y canu ar ben. A oedd arnaf hiraeth ? Wel, beth feddyliech chwi ? Amijoi. Anfonwch y gweddill. Ni byddaf yn penderfynu a gaiff dim le hyd nes gweld y cwbl. Mair Bach. Mae arnaf ofn nad ydych yn gwerthfawrogi eich breintiau. Calon lwfr fydd yn grwgnach. Ac y mae arnom eisiau calonnau dewr yn y byd yma, onid oes ? Beth feddyliech am hyn, Mair bach ?—Geneth gloff yn byw yn un o heolydd tlodaidd East End, Llundain. Er ei chloffni, mae yn rhaid iddi gadw ei hun a nith fechan amddifad sydd yn dibynnu arni, ac y mae yn llusgo ar ei baglau bob bore i'r lle maent yn gwneyd tocynau y tram. Yno mae yn eu rhwymo yn becynau dirifedi am swm fuasai yn gwneyd i chwi agor eich llygaid, mae mor fychan. Mae wedi byw ar hyd ei hoes yn y ddinas fawr; ond ychydig mae yn wybod am unlle tu allan i'r rhan dlodaidd lie mae yn byw. Un dydd Sul yr haf diweddaf, aeth boneddiges garedig a hi a'r eneth fach i'r wlad am y diwrnod, ac ar y ffordd i'r orsaf, cafodd ei golwg gyntaf ar Westminster Abbey. Dyma i chwi gaethiwed, onide ?