Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ** LWYDDYN NEWYDD. 0 Flwyddynnewjdd, byddyn dyner o'r plant, a'r adar, a'r ŵyu bach. Dangos dy dynerwch yn y gwanwyu, dy serch yn yr haf, dy olnd yn y cynhaeaf, a dy drugaredd yn y gaeaf. Bon. Y niae yn y rhifynnau sy'n dod bron bopeth yr ydych wedi gofyn am dano hyd yn hyn. (1) Cewch hanes be rdd Cymru, a dam o'n gwüith ì ddysgu allan bob mis. (2) Cewch ddod ani dro gyda'r hen olygydd, weithiau ar droed, weithiau mewn oerbyd, weithiau yn y trei), trwy ryw ran o Gymru. (3) Cewch hanesrhyw aderyn. (4) Cewch rai o'r Mab- inogion, mewn dull y gallwch eu deall. Os deliwch ati i w darllen, yn raddol byddwch yn medru mynd i wlad hud a lledrith y Canol Üesoedd. Dyma i chwi ddechreu hanes Peredur yn y rhifyn hwn, hyd at y cychwyn i ffwrdd ar ei farch afrosgo. S. I. S. Yr wyf yn ceisio cael pethau ar gyfer plant bychain iawn, yn enwedig hwian- gerddi. Os medraf, rhoddir casgliad ohonynt bob mis. Da gennyf ddeall fod yr hen hwian- perddi diddan, diniwed, a melodaidd liyn yn dod yn ol i'n haelwydydd. G-wnant genedl- aeth o blant yn llawer mwy dedwydd. Dylai pawb sy'n magu neu yn addysgu plant bach astudio'r hen rigymau hynafol ac anwyl hyn. Lavka. Da gennyf eich bod yn cadw dydd- ìadur, ac yn rhoddi i lawr pryd y gwelwch y wennol gyntaf, pryd y cljwch y gog gyntaf, pryd y gwelwch y friallen gyntaf a'r llygad y dydd cyntaf. Goreu po fwyaf roddwch i lawr. Ysgrifennwch mor dlws ag y medrwch. Tynnwch ddarluniau hefyd. Sylwch ar "Tro yn yr Hydref" yn y rhifyn hwn. Bob yn dipyn, dowch i ddeall sut i sylwi, ac yna gwelwch mor orlawn o ryfeddodau yw creadigaeth Duw. H. M. 1. Os eich mam a'ch galwodd yn Handel Mozart, bydded y cof am dani yn fwyn i chwi. Meddyliai y deuai y baban yn gerddor mawr, yn enwedig ''wrth fod canu yn nheulu ei dad." 2. Dywed y cyfarwydd mai'r alawon Cymreig yw'r pethau goreu i w dysgu i blantysgoì,—maent yn hawdd eu cofio, ac nid oes dim mor debyg o ddeffro ysbryd ceinaf cerddoriaeth ym meddwl y plentyn.