Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ■^ ARGARET. Yr wyf yn falch iawn o'ch desgrifiadau o adar ; mae croeso i bopeth sydd yn ffrwyth sylw. Daw hanes y gornchwiglen yr adeg y bydd yn nythu. Sam. Bydd hanes teithiau, yn enwedig rhai trwy Gymru, yn cael lle gennyf. Hoffwn i bob plentyn o Gymro gymeryd dyddordeb yn ei wlad ei hun. Cyn cychwyn ar daith, darllennwch gymaint ag a ellwch am y lle ; wedi mynd yno, holwch gymaint a ellwch. Wddyn Gawr. Pan dyrr un o bibellau gwaith dŵr Lerpwl, rhed y dŵr yn gyflymach, a bydd mwy o nerth ynddo. Trwy hynny caea ddrysan mewn lleoedd penodol, a throir y dŵr i gyd i afonydd lle nas gall wneyd drwg. Nid wyf yn credu y cwyd "Wddyn Gawr byth i foddi'r fro, er fod traddodiad y gwna, a hwnnw yn draddodiad hŷn o ganrifoedd nag adeg gwneyd y llyn ar fedd y cawr. Sal am ddeall. 1. Y mae'r ddwy ysgwydd fechan sydd i lwy de, nid yn addurn, ond yn olion y terfyn rhwng y pen a'r goes pan oedd y ddau ar wahan. Yr oeddynt unwaith fel y mae rhaw a choes rhaw yn awr. 2. Nid addurn yw'r ddau fotwm ar gefn cot dyn. Defnyddid hwy at fotymu'r lapedi; pan oedd y rheiny yn hirion iawn, codid hwy ar y cefn, a botymid hwy yno, er medru cerdded yn fwy dilestair. 3. Y mae botymau ar y llewis oherwydd byddai eisiau eu torchi, i ddal y cledd neu i ganu telyn neu i ddangos gwynder llian. Cynorthwywyr. Gwelwch fod pob erthygl yn y rhifyn hwn a'r rhifyn nesaf wedi eu talfyrru. Gobeithio nad wyf wedi amharu gwaith neb; ond rhaid cael popeth yn daclus i ddiweddu'r flwyddyn, a chychwyn y flwyddyn nesaf gyda hoen ac ynni newydd. Cymro. Ie, Cymro, sef Robert Recorde o Ddinbych y Pysgod, oedd y Prydeiniwr cjntaf i gredu syniad Copemicus am le'r ddaear yn y greadigaeth. Gwlad yr Eira. Bydd erthyglau tarawiadol iawn ar y Saith Rhyfeddod yn rhifynnau y flwyddyn nesaf, wedi eu hysgrifennu gan Garneddog a H. Brython Hughes. Dylid deffro dychymyg ein plant. Sian y Bryn. Nofel yn desgriflo bywyd cyn ein dyddiau ni yw " nofel hanesyddol," megis oes Llywelyn neu oes Owen Glyndwr neu oes ein teidiau. Rhaid i'r nofelydd ddarllen hanes ei gyfnod yn fanwl; ac os daw cymeriadau hanesyddol i'w stori, rhaid i'r darluniad ohonynt fod yn gywir. Nofel fel hyn yw "Y Fun o Eithin Fynydd," yn darlunio Dafydd ab Gwilym a'i amser. Rhoddodd yr awdures dalentog hi i mi i edrych drosti cyn ei chyhoeddi, a gorfod i mi dynnu cae tatws o honi; oherwydd ni ddaeth tatws i'r wlad hon am agos ì ddau can mlynedd wedi hynny. Dyddorol iawn fuasa ystori a rhai o'r beirdd Cymreig ynddi, megis Edward Richard, yr athraw hoff o Ystrad Meurig; neu Eben Fardd a'i helyntion; neu Dewi Wyn. Mae'n hawdd cael darlun cywir a byw o'r rhai hyn, ac y mae digon o'r prudd a'r rhyfedd a'r dieithr yn eu bywydau i wneyd eu hanes yn ddigon dyddorol i dynnu plant oddiwrth eu chware.