Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •^- IL. Yr oedd yn hawdd iawn canu yn amser y Diwygiad. Mae pob melin yn troi ar wynt. D. ab Ioan. Treiwch ysgrifennu eich enw, a phopeth arall, mor eglur ag y medrwch. Y mae Jlawer un, wrth arwyddo ei enw, yn rhoi cymaint o gwafers, chwedl cìiwithau, fel nas gall neb godi ei law yn gywir. Gŵr hunanol sy'n ysgrifennu felly, nid yw yn meddwl am neb ond am dano ei hun. Ona pan fo ysgrifennwr yn meddwl am gysur ereill, gofala am ysgrifennu ei enw yn eglur ac yn gain. Nid oes dim mor dlws a pheth sy'n dangos ysbryd cymhwynasgar. J. Y mae tad yn ysgrifennu ataf mewn galar am ei fachgen, ac yn gwneyd apêl. Aeth y bachgen i ddinistr trwy'r ddiod feddwol, ac esiampl ei athraw oedd y rheswm am hynny. Apelia'r tad yn daer at bob athraw plant drwy Gymru ymwrthod yn hollol â'r ddiod. feddwol. Yr wyf yn cyflwyno ei apêl ddifrifol â'm holl galon. D. Jenrins. 1. Y mae rh yn troi'n r i ddynodi rhif, megis "eiiieni" (his parents); i ddynodi rhyw, megis " ar ei ran " (on his behalf) ; i ddynodi dibyniad, megis " oddiwrth rywun; " ac o ran perseinedd, megis " pan fo raid." 2. Bydd y beirdd yn ysgrifennu "goreu " neu "gorau," "goleu " neu "golau " yn ol eu hangen, i uíuddhau i ddeddf y maent wedi wneyd yn llyffethair iddynt eu hunain. Buasai'n well heb y fath ddeddf; ac nid wyf yn sicr na fuasai'n well heb y beirdd wêl rym ynddi. G. 1. Y mae " ar y croesbren " ac " ar y groes " yn gywir, ac heb wahaniaeth. 2. Yr oedd Goethe yn gyfreithiwr mewn enw, ond ni weithiodd: yr oedd yn gyfoethog, a chafodd ffafr Duc Saxe-Weimar. Felly cafodd ei feddwl cawraidd ddigon o hamdden. 3 Ffolineb, beth bynnag am bechod, yw peidio rhoi gorffwys i'r meddwl ar y Sul. 4. Bu cystal beirdd a Homer ar ei ol, ond md yn yr un cyfeiriad. 5. Trecynon=tre yn perthyn i Gynon; tref o'r enw Cynon fuasai " Tregynon." 6. " Gan Ruffydd " yw'r ffurf briodol. R. Y mae cyfrol o waith Samuel Roberts, Llanbrynmair, newydd ei chyhoeddi. Cewch hi am 1/6 oddiwrth Ab Owen, Llanuwchllyn; neu oddiwrth R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy. March ab Meirchion. Y mae ceffylau yn colli arnynt eu hunain yn hollol pan glywant arogl tân. ac ant yn hollol aflywodraethus yn eu hystablau. Dyna'r pam y mae mor anodd eu cael i ddiogelwch amser tân. Rhyw gof greddfol yw am y tân yn y goedwig a'r gwellt yn fflamio pan oedd eu hynafiaid yn wylltion, ac yn dianc am eu bywyd rhag yr ystorm dân oedd yn dod o'u hol.