Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ■^- FAN BRYN BRIALLÜ. Yr wyf yn treio rhoi darlun rhyw flodeuyn ym mhob rhifyn. Cofiaf am danoch. Bugail Berwy>\ 0 New Zealand ac Awstralia y daw gwlan i'r wlad hon, i'w wneyd yn frethyn yn y West of England ac yn Yorkshire. Enfyn Awstralia werth £12,000,000 bob blwyddyn, a New Zealand werth £5,000,000. Tipyn o gynnydd, onide, er yr adeg y ceisiodd Capten Cook adael dafad a hwrdd yn New Zealand yn 1773 ? B. L. Diolch yn fawr. Ond y mae'r erthygl, fel naw o bob deg a gaf, yn rhy gyffredinol. I blant, rhaid cael stori, a rhoi y bregeth yn gudd yn honno. Gwir yw fod aml fachgen o weithiwr yn priodi geneth brydferth, yn ei chael yn anfedrus a diog a hunanol; yn ei chael yn chwedleua yn nhai cymdogesau, yn lle paratoi ei fwyd, ac yn gadael ei gartref budr a digysur am ddifyrrwch y dafarn. Rhaid rhoi hyn oll mewn ystori, cyn y mynn y plant ei darllen. J. H. H. Hysbysir fi y gellwch chwi ac ereül gael " Gwaith Cynddelw," gyhoeddwyd gan y diweddar H. Humphreys, gan Mr. Evan Hughes, Argraffydd, Stryd y Llyn, Caernarfon, ac am bris gostyngol. M. Dywed Mr. Robert Hughes, Llyfrwerthydd, Ty'n y Cefn, Corwen, í'od ganddo ol-rifynnau Cymru a Chymru'r Plant, ac y gwna ei oreu i geisio y rhifynnau yr 'ydyeh mewn angen am danynt, os ysgrifennwch ato. Gwelais hysbysiad 'ain' bum cyfrol cyntaf Cymru mewn papur newydd am bris isel; anfonais am danynt gyda'r troad, ond yr oeddynt wecü ni}md. Lowri. Os ydych am ddysgu llaw ferr yn Gymraeg, derbyniwch "Gylchgrawn Llaw Ferr," pns dwy geiniog y mis, gan R. Prys Griffiths, 20, Seddon Road, Garston, Liverpool. Y mae eisiau gohebwyr Cymreig medrus, ac ysgrifenwyr erthyglau da. M. P. Yr wyf finnau'n teimlo fod rhy ychydig o lyfrau dyddorol a phoblog- aidd, mewn ffurf dlos, yng nghyrraedd cyhoedd darllengar Cymru. Yr wyf yn gobeithio y medraf hysbysu enwau nifer o lyfrau poblogaidd, o werth arhosol, sydd i ymddangos y flwyddyn hon, yn y rhifyn nesaf. Ymysg yr awduron y mae Richard Morgan, Wiimíe Parry, ac Eiííoii Wyn,—yn cynrychioìi natur, yr ystori, a'r delyneg.