Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. D. T. Peters. Diolch. Yr wyf yn gobeithio y bydd gentiyf, cyn hir, benodau ar ramadeg fydd o'r gwerth mwyaf i'r ysgolion. R. J. Oes, y mae mwy o barch i Albanwr nag i Gymro yn rhai o bapurau newyddion Lloegr. Y rheswm am hynny yw, fod yr Albanwr yn meddwl mwy o'i wlad, ac yn rhoi a mynnu parch iddo ei hun. Y dydd o'r blaen, yr oedd pobl Dumfries yn dathlu chwe chan mlwyddiant cymeryd y lle gan Robert Bruce, ac yr oedd ieirll a barwniaidyno. Pe dathlai Bangor fuddugoliaeth Moel y Don, neu Aberystwyth gymeryd y castell gan Owen Glyndŵr, lle byddai'r iarll a'r barwnig, yr esgob a'r person, ar ddiwrnod felly ? Ac eto, synna llawer pam ua cha'r Cymro barch. Miriam y Gwersyllt. Y mae barn Syr Frederick Treves, meddyg y brenin, yn werth ei chofnodi. " Yr oeddwn gyda'r fyddin," meddai, •'oeddynmynd i waredu Ladysmith. Yn y golofn honno o 30,000 o filwyr, pwy syrthiodd yn lluddedig o'r rheng ar y daith ? Nid y dynion tal, ac riid y dynion byrion, nid y dynion mawr ac nid y dynion bach, ond yr yfwyr,—gorfod i'r yfwr syrthio o'r rheng mor sicr a phe buasai'r gair ' yfwr' mewn llythreunau breision ar ei gefn." 0. Ar gais llawer o athrawon, pofynnais i Llew Tegid a gawn ail gyhoeddi "Y Merlyn Bach Melyn," gyhoeddais o'r blaen ryw ddeng mlynedd yn ol. üywedir fod y merlyn bach melyn wedi mynd yn boblogaidd iawn. ac fod mawr eisiau pethau tebyg iddo. Cefais gauiatad parod yr awdwr caredig ac amryddawn. Ond cofied pawb fod hawlfraint ar y dôn a'r geiriau, ac nas gall neb arall eu cyhoeddi. Ymofynnydd. 1. Yr un peth, y mae'n debyg, yw Pencader a Phenbryn. Mae cader yn enw ar fryn yn aml, megis Cader Idris, Cader Beullyu, Cader Ferwyn. 2. ''Ar lannau Teifi " sy'n iawn ; " dyffryn Teifi " ddywedir, onide ? '■>. Ganwyd Ceiriog yn amaethdy Pen y Bryn, Llanarmou Dyffryn Ceiriog ; gorsaf-feistr fu y rhan fwyaf o'i oes. 4. " Cnrph y Gainc" (carolau, awdlau, kc. y gelwir y casgliad o waith Dafydd Ddu Eryri: cywyddau i deuluoedd Cymru yn amser Rhyfeloedd y Rhosynau yw gwai'tb. Lewis Glyn Cothi. 5. Daeth Chatterton yn enwog yn ieuanc oherwydd beiddgarwch ei athrylith. 6. Yn Llanfihangel y Pennant a Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd, y treuliodd y Dr. W. O. Pughe ei febyd. Bob. Y mae'r morgrug yn cadw gwartheg, ac yn eu godro. Darllennwch erthygl Mr. R. Morgan yn Cymru y mis hwn. Llinos y De. Y mae ein glannau wedi bod yn lle i'r erlidiedig ffoi ers eanrifoedd. Pan orthrymir am gariad at ryddid neu am grefydd. atom ni y daw'r ffoaduriaid Ac y maent wedi bod o'r gwerth mwyaf mni. Ond, yn awr, gellir troi ffoadures o enethig yn ol, os bydd yn afiach, a gadael i'w chyfeillion lanio.