Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. K^ •; Jm Mff^ i\ ^^K ì'fnt w |. À "V 1/ * Íê i"'*<í rEf^g" ÿSpgfcSS^• i •'ä4 >V/A ORFUDD. Dafydd Ddu Eryri ysgrif- [V| eDnodd " Fy Anwyl Fam fý Hunan." ^ íj L Y mae'n debyg mai yn " Straeon y ^^ Pentan" Daniel Owen y gwelsoch hi. " Oorph y Gainc " yw enw llyfr Dafydd Ddu. O. Y mae Mr. Robert Bryan yn yr Aifft, ac yn gwella. Cefais air oddiwrtho'n ddiweddar o Alexaudria, yn dweyd am droi'r anial yn gyfannedd, ac am ddinas y meìrw ddarganfydd- wyd dan y ddaear, ac am y Llyn Halen. Ond y mae'n addaw anfon ysgrifau cyn hir. Tad Bob. Beth feddyliech chwi am y misolyn Cymru? Ceisir ei wneyd yn anrhydedd i'n gwlad, heb arbed traul na thraffeith. Cychwyn- na ar flwyddyn newydd, yn ei ddegfed cyfrol ar hugain, gydag ynni newydd. Nodwedd arbennig y rhifyn dwbl fydd dathlu canmlwyddiant Ann Grriffiths, a thaflu goleuni ar hanes a bywyd ei sir, sef sir Drefaldwyn. Nid oes darlun o hoff emynyddes Cymru ar gael, ond rhoddir darluniau o'i hysgrifau, ei chartref, wynebau ei pherthynasau, a thrwydded bregethu Dolwar. Nid wyf yn meddwl fod llyfr yn cynnwys deugain o ddarluniau prydferth, Uawer o honynt yn llawn tudalen, wedi ei gynnyg yng Nghymru erioed o'r blaen am swllt Y mae'r erthyglau oll gan lenorion medrus, a rhoddant ddarlun hyfryd, o sir Dref- aldwyn yn euwedig, o fywyd Cymru yn y ganrif o'r blaen. üaw darluniau tebyg o bob sir yn ei thro. Swllt yw pris rhifyn dwbl Ionawr, chwe cheiniog yr un yw'r rhifynnau ereill. Byddaf yn ddiolchgar iawn i chwi ac ereill am gymorth i ddwyn Cymru i sylw. Nid wyf fi'n cael dim am ei olygu, y mae'n dreth drom ar fy amser a'm poced bob blwyddyn. Ond yr wyf yn teimlo ei fod yn gwneyd Ues, ac yr wyf yn apelio am gymorth yn hyderus. Ll. o'r Llwyn. Tennyson ysgrifennodd " The Charge of the Light Brigade." Nid dychymyg yw, ond ffaith. Darluniad ydyw o waith catrawd o bicellwyi Prydeinig yn rhuthro i ganol byddin y Rwsiaid yn Balaclava. Camgymeriad oedd eu gyrru ar anturiaeth mor ofnadwy ; yr oedd. magnelau a gynnau byddin gyfan yn tywallt eu tân arnynt. Yr oedd y cadfridog wedi tybio fod y Rwsiaid yn encilio, ac yr oedd am i'w bicellwyr rwystro iddynt fynd â'u magnelau gyda hwy. Ymysg y meirchfilwyr garlamasant " straight into the jews of death," yr oedd o leiaf un Cymro. Da gennyf weld ei enwi'n gyntaf ar restr y rhai anrhyd,- eddodd Mr. Balfour cyn gadael ei swydd. Arglwydd Tredegar yw, Cymro gwladgarol, un yn disgyn o Ifor Hael. Wil y Wabn. Ffolineb yw dweyd nad oes gan Gymro ben ond at bregeth ac emyn. Lle mae pen at bregeth ac emyn, mae pen at bopeth. Rhof eleni hanes Cymry ddaeth yn enwog fel dyfeiswyr a pheirianwyr. Gall Cymro wneyd unrhyw beth os cred ynddo ei hun.