Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. Morfudd Jones. Bydd robin yn dod i edrych am danaf fìnnau weithiau. Cerddodd un i mewn trwy'r ffenestr agored ddoe, fel pe buasai bia efe y lle. Cafodd friwsion yn groesaw. Toc, ceisiodd fynd i ystafell arall trwy ddrych oedd ar y mur. Wedi hir guro yn erbyn y gwydr, daeth a safodd ar gornel fy mwrdd gan edrych arnaf yn geryddol ddifrifol, feí pe'n dweyd,—" Does dim posib i'r un deryn call ddeall eich tý chwi." Toc, safodd ar fy mhensil, trodd honno dano, fflapiodd ei edyn yn wyllt, ac edrychodd fel pe'n dweyd,—" Bobol anwyl, dyma'r lle sobraf y bum i ynddo erioed." Blaen y Cwm. 1. Yr oedd y cacwn llesg a welsoch oll yn aros angeu, lleddir hwy gan lwydrew Hydref. 2. Gofynnaf i rywun cyfarwydd â chacwn ysgrifennu eu '' hanes a'u gwersi" i chwi. Unwaith gwelais gacynen wedi suddo i ddysglaid ojam. Codais hi oddiyuo, a rhoddais hi ar y glaswellt. Yr oedd ei phen, ei hadenydd, a'i thraed wedi eu llenwi â siwgr gwlyb. Ni fedrai symudnallusgo ei hun ; ac y mae arnaf ofn iddi gael ei lladd gan ei gormod golud. Gwn am lawer o ddynion y mae hynny wedi digwydd iddynt. Hoff o Ddarlun. Gallaf, gallaf ddweyd pa ddau ddarlun oedd y rhai pruddaf welais erioed. Y cyntaf oedd darlun o ddafad yn sefyll ger ei hoen marw yn yr eira, a chylch o frain o'i chwmpas. (Rhaid i chwi gofio mai hen fugail wyf). Yr ail oeäd darlun o fachgen afradlon yn sefyll a'i bwys ar goeden yn yr eira o flaen tŷ anghyfannedd; yr oedd wedi dychwelyd adref yn rhy ddiweddar, y drws ynghlo, a'r ffenestri'n dywyll. Gwen y Garth. Y mae gweled colomen yn dod adre yn un o'r pethau prydferthaf. Nid oes lawenydd mwy na llawenydd colomen wrth gyrraedd ei hen gartref. Gwelais golomen lân yu cyrraedd ei chartref mewn heol fudr yn Birmingham unwaith ; ac yr oedd rhyw fflach ddisglaer o lawenydd fel pe'n dod gyda hi pan ddisgynnodd. Y Plant Ffyddlon. Y mae llawer o'm darllenwyr, erbyn hyn, yn tyfu yn ddynion cryfìon ac yn wragedd golygus. Mae ihai yn y gwaith a rhai yn y siop, rhai yn y maes a rhai ar y môr, rhai ar y mynydd gyda'r defaid, a rhai ar y gwastadedd gyda'r aradr, rhai yn y pulpud a rhai yn yr ysgol. A wnant hwy ddal i gofìo am danaf ? Bydd y gyfrol nesaf yn well ac yn fwy dyddorol na'r un aeth o'i blaen. Ceir ynddí erthyglau ar hanes y ddaear, wna i'r plant ddeall y creigiau ; ac ar adar, a wna iddynt adnabod aderyn a'i gân; ac ar y ser, sy'n gwenu mor fwyn arnom yn y nos. Bydd ynddi hanesion lawer hefyd, wedi eu casglu o bob gwlad, a hanesion ein tadau ni. Bydd hanes Cymry ynddi, nid rhai enwog hwyrach, ond rhai wnaeth ddaioni a gwrhydri yn eu dydd. Cyearwyddwyr Ysgolion. Y mae Cyngor Addysg sir Gaernarfon, y mwyaf egniol ac effro yng Nghymru, yn cymeryd Cymru'r Plant wrth y cannoedd i ysgolion y sir. A gaf fi ofyn i gyfarwyddwyr ysgolion y siroedd ereill wneyd yr un peth ? Gwneir ymdrech i wneyd rhifynnau'r flwyddyn nesaf yn wir foddion addysg. Nadolig Dedwyld, Blwyddyn Newydd Dda.