Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. NNEN y Cwm. Y mae Mr. Richard Morgan ar gatiol ysgrifennu llyfr i blant ysgol ar adar Cymru. Bydd y plant yn darllen y llyfr hwnnw yn yr ysgolion, a deuant i adnabod pob aderyn yn dda. Pennod o'r llyfr newydd yw hanes y ji-binc yn y rhifyn hwn. E. J. Y mae cylch mwy o wasanaeth yn £gor o flaen yr Ysgol Sul. Yn y dyddiau fu, yr oedd yn rhaid iddi ddysgu plant i ddarllen Cymraeg, gan fod yr ysgolion dyddiol yn esgeuluso y gwaith hwn yn hollol, er cywilydd iddynt. Ond yn awr dysgir i'r plant ddarllen Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol; a gall yr Ysgol Sul gael ei holl amser at egwyddori plant mewn moes a chrefydd, a thrwytho pawb yn ysbryd y Beibl. J. R. Piscator. Rhaid i'r erthygl fod yn ddyddorol, yn ogystal ag yn uddiol. Y mae ysgrifennu erthygl i blant yn ilawer mwy anhawdd nag ysgrifennu erthygl i bobl mewn oed. Y mae'n gofyn cymaint o fedr a medr y pysgotwr wrth ddewis a threfnu ei blu. Ap Llen. Y mae iaith y traethawd yn rhy chwyddedig. Gall sylwedd y deuddeg tudalen fynd i un yn hawdd. Ceisiwch ei ysgrifennu oll mewn geiriau unsill neu ddeusill. Peidiwch ofni bod yn rhy glir. Gochelwch ormod defnydd o'r geiriau " cael " ac " allan." Gwyl. Felly fìnnau, buasai'n dda gennyf weled pob trwydded i werthu diod- ydd meddwol yn cael ei galw'n ol yfory; na, heddyw. Ond y mae un peth yn peri llawenydd imi. Y mae'r tafarnau yn llawer gwell nag y byddent, yn enwedig tafarnau ymylon y ffordd. Eu prif gwsmeriaid yw teithwyr, ar geffyl haiarn neu gerbyd haiarn. Am fwyd maethlon y galwant hwy, nid am ddiod aflach. Mae ugeiniau o dafarnau yn troi'n ddirwestai, ac nid yw eu trwydded ond colled iddynt. Yn y trefydd yr erys y diotai. Athraw. "A ddylid dysgu crefydd yn yr ysgol ddyddiol? " Cwestiwn rhy boeth i mi gydio ynddo'n awr. Ond yr wyf yn gofalu rhoddi ymhob rhifyn wersi moesol y gallwch eu darllen i'r plant yn yr ysgol. Ap Maldwyn. Nid ydyw emynnau Ann Griffiths wedi eu cyhoeddi fel yr ysgrifennodd hi hwy. Gwnawd llawer o gyfnewidiadau gan olygwyr; y mae'r emynnau fel yr ysgrifennodd hi hwy yn llawer tlysach a mwy tarawiadol. Cyhoeddir hwy fel yr ysgrifenwyd hwy yn un o gyfrolau nesaf Cyfres y Fil. Yn yr un gyfrol bydd gwaith cyfoedion Ann Griffìths, rhai oedd yn peithyn i'r un seiat a hi. Yn eu mysg y mae John Davies, y cenhadwr enwog aeth â'r efengyl i Tahiti; a John Hughes, Pont Robert, un o dywysogion pulpud Cymru.