Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. IL y Waen. Y mae'n hawdd i ni, yng ngwlad yr heulwen a'r gwenith a'r fErwythau, a'r môr glas agored, dybied mai peth hawdd yw cyrraedd Pegwn y Gogledd. Ond, pe'r aech i ynys Spitzbergen, Ue na thyf yr helyg ond ychydig fodfeddi, syíweddolech nad yw mor hawdd. O'ch blaen, hyd yn oed yng nghanol yr haf, gwelech fllltiroedd ar fllltiroedd, ie, ar ddegau o fìlltiroedd, o ddarnau enfawr o rew, yn curo'n erwin yn erbyn eu gilydd. Pa long fedrai fyw yn y frwydr ofnadwy honno ? Gwneid y llong gryfaf yn ddellt gan y mynyddoedd rhew nofiadwy. Sam Jones. 1. Ie, bwa saeth fyddai'r arf cyn dyfeisio powdwr gwn. Yr oedd Cymry Gwent a Morgannwgynhynodfelsaethyddion. 2. Dywed Neade, saethwr yn adeg Siarl I., y taflai'r bwa saeth o 320 i 400 llath. Saethodd Twrc, yn 1794, saeth 415 llath yn erbyn y gwynt, a 463 gydag ef. Yn ddiweddar iawn, saethodd Syr R. P. Gallwey saeth bellder o 367 llath. 3. Teifl gynnau mawr Portsmouth, belen ddigon i auafu llong bymtheng milltir oddiwrthynt. 0. Drwg gennyf fod y Gymraeg yn colli tir yn eich ardal. Dylai pob plentyn o Gymro wneyd ei oreu i gadw'r iaith yn fyw. Y pulpud, y cyfarfod llenyddol, y cylchgrawn,—rhoddwch bob help iddynt hwy, a bydd hynny'n help i'r iaith. M. A. Gadewch i ffeithiau eich arwain. Y plant ddysgir drwy y Gymraeg yw'r rhai mwyaf llwyddiannus o hyd; a'r ysgolion Ue y defnyddir y Gymraeg fel moddion addysg yw y rhai goreu Yn Arfon eleni, o'r 560 ymgeiswyr am ysgoloriaethau'r Cyngor Sir, yr oedd dwy eneth o ysgol Bethel yn gydradd gyntaf. Yr oedd y rhai hyn wedi eu dysgu trwy y Gymraeg. Edrychwch chwi beth yw safle yr ysgolion sy'n cadw'r Gymraeg allan, pan ddaw'n brawf arnynt. Morpudd. Mae Ceiriog yn son am y " saith seren." Yn ei gân yn desgrifio dringo'r Wyddfa, i'w chanu ar alaw "Toriad y Dydd," dywed,— " A gwelem y Saith Seren, üedd yn y gogledd draw, Yn gwenu ar saith seren wen Oedd yn y llyn gerllaw." Bob. Y mae'r barcud yn hynod am graffder ei olwg. O'r awyr fry, gwel abwydyn ar y ddaear. Os ewch gyda'r llong o Landudno i Fangor, teflwch groen banana i'r dwfr, ac ni ddigwydd dim; teflwch ddarn o fanana, a chewch weled tyrfa o adar yn ymeaethu ato o'r awyr. Pan fydd helwyr ar daith saethu yn Affrig, ac wedi saethu rhywbeth, gwelant adar rhaib yn dod o bob cyfeíriad, er nad oedd yr un yn y golwg o'r blaen,—yr oeddynt yn rhy uchel yn yr awyr glir i neb allu eu gweled. Ond, er hynny, yr oedd eu llygaid craff hwy yn gweled yr hela i gyd, o'u pellder anweledig.