Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. AOMI. 08 bydd teimlad, bywyd, a hyawdledd yn y darluniad, y mae cymaint o groesaw i haties bwthyn Cymreig, tlodaidd, ag sydd i byramidiau byd-enwog yr Aifft. Y mae swyn rhyfedd mewn ambell ddarluniad cywir a gouest o fywyd teulu mewn bwthyn. Gwell gen i olrhain hanes bwthyn- wyr Cymru, na darllen hanes brenhinoedd y ddaear. Gwladys. 1. Yr un yw ystyr Gwen a Blanche. •2. " Arglwyddes." neu " un yn rheoli gwlad " yw ystyr y gair Gwladys. Y mae yr enw tlws hwn yn fwy cynrediu, fel y rnae'r gwaethaf, yn Lloegr nag yng Nghymru. 3. Y mae Enid yn enw cyffredin iawn yn Lloegr hefyd, ac mae'n auodd cael ei hoffach. Glowh o'k Rhondda. Pwy fedr ei hysbysu Ue cyhoeddir gwaith Ioau Maethlu? B. Daw gwobrau Undeb y Ddraig Goch i'r buddugwyr, os nad ydynt wedi dod eisoes, oddiwrth Miss Mallt \Villiams, Tal y Bont ar Ŵysg. Llais Llaweroedd. Byddaf, fel chwithau, yn hofü cofiannau plant bychain. Ond rhaid cofio mai cyhoeddiad i blant yw hwn : a chilia plant yn reddfol o gysgodion yr yw. Y mae'r cyhoeddiad yn mynd, wrth ei filoedd, i ysgolion y wlad; a rhaid chwilio am y pethai- 'mwyaf cyfaddas i helpu athrawon ddeffro meddwl plant. Y mae pob athraw'gyfarfyddais yn coudemuio'r cofiannau plant wyf mor hoff o roddi. Er hynny, nid wvf am eu gwrthod yn llwyr. Ond rhaid iddynt fod yn fyrion ac yn darawiadol. Cefais ugeiniau o ysgrifau, a dim ynddynt ond y ddwy ffaith yma, —fod y bachgen yn dduwiol ac yn darllen Cymhu'h. Plant. Pa beth eniliir wrth gyhoeddi dim ond hynny ? Athraw. Treiwch " Cymraeg i'r Safonau," pris grot ; cyhoeddir gan J. E. Southall, Dock Street, Casnewydd (Newport). Y mae dwy ystori yn dechreu yn y rhifyn hwn. Bum yn hir yn methu penderfynu a rown yston " Twmi Bach BeDgoch " i'r plant, oherwydd ei bod mor gyffrous ac erchyll. Ond y mae mor wir ac mor darawiadol. fel y pender- fynais ei rhoddi, wedi i mi ddarllen hanes y danchwa alaethus ddiweddaf yn y Rhondda. Mae'n iawn i'r plant wybod am beryglon meibion llafur. Ymyso ysgrifau Oymru nesaf, y mae ysgrif gau Robert Bryan yn desgrifio beth welir oddiar Fynydd Seion ; ac ysgrif gan Richard Morgan yn desgrifio dyddiau Hydref yng Nghymru. Sylwch ar y Pleiades, "y saith seren," y mis hwn. Ni welwch ond chwech ohonynt â'rllygad noeth. Maent fel swp o ddefaid yn hel at eu gilydd pan ío storm yn curo arnynt. Pwy fardd Cymreig ganodd am y saith seren ? Lle mae son am danynt yn y Beibl ?