Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. AE cyfrol brydferth o emynnau yr hen ddiwygiadau wedi ei chyhoeddi. Gellir ei chael mewn amlen am swllt, neu mewn llian (yn unffurf a Chyfres y Fil) am ddeunaw eeiniog. Mae amryw ddarlun- iau ynddi o hen bîegethwyr a hen ddiwyg- wyr Cymru. " Gwreichion y Diwygiadau" yw ei henw, nid oes dim o'r emynnau yn y llyfrau hymnau. Ceir hi o swyddfa Cymru, Caemarfon. Mair. Yr wyf wedi meddwl droion am roddi hanes bwthynod dinod Cymru. Bydd darlun a hanes bwthyn Plas y Mwswm, yn sir Benfro, yn y rhifyn nesaf. L. S. Os mai arfer cerddorion yw ysgrifennu " chware'r delyn," yn lle " canu'r delyn," y maent yn ysgrifennu yn anghywir. Y mae'r ymadrodd " chware'r delyn" mor anghywir a "ch^aie corn." " Canu corn," " canu'r delyn," '' canu'r piano " sydd gy^ir. 0. " Tlws pob peth bychan " yw'r ddihareb. Gofynnwch beth oedd y peth bach tlysaf welais i. Dywedaf wrthych beth oedd y peth bach tlws welais ddiweddaf. Yr oeddwn yn dringo llechwedd y Lledwyn Mawr ym mis Gorffennaf diweddaf. Pan oeddwn ar ystlys glaswelltog y mynydd, sylwn fod y gwellt byrr yn bob lliw oherwydd y sychder, a synnwn at amrywiaeth mawr y lliwiau. Yn sydyn, dyna iar fynydd yn codi, ac yn cymeryd arni fod yn gloff wrth ddianc ymaith. Gwyddwn fod ganddi rywbeth i'w guddio ; a thra yr oedd hi yn ceisio fy cenu i'w dilyn, edrychais yn fanwl ar yr ysmotyn y codasai o hono. Toc. gwelwn giw iar fynydd yn sefyll yn berffaith lonydd yn y byrwellt. Yr oedd ei liwiau tlysion yr un fath yn union a lliwiau y gwellt o'i amgylch,— a thybiwn na welais beth bach tlysach erioed. Ni arhosais wrth ei ben yn hir, yr oedd mam bryderus gerllaw. Ond teimlwn fod lliwiau y bychan yn ei guddio rhag trem hebog o'r Aran oedd yn yr awyr fry. H. E. 1. Fel y mae'n digwydd, nid oes eîsiau dyblu yr un llythyren yn yr un o'r tair cân 2. " Ysgrifennu " ddywed Gogleddwr; "ysgrifenu" ddywed Deheuwr. 3. Dylai pawb gael sillebu fel y mynn; nid oes eisiau unffurfìaeth sillebu mwy nag unffurfiaeth arddull. Mewn rhai o ysgolion goreu Lloegr, ni roddir pwys o gwbl ar sillebu unffurf. Ab Cynan. Yr ydych yn sicr o fod yn fwy dedwydd os sylwch ar bethau o'ch cwmpas. Yr wyf yn gwneyd fy ngoreu i gael ysgrifenwyr medrus, a meddwl a iaith glir ganddynt, i esbonio pethau i chwi,—megis ser, blodau, ac adar. Os bydd yr erthyglau yn anodd eu deall, gwnewch ymdrech ; daw pethau yn oleuach i chwi o hyd.