Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. LWEN. 1. Nid oes dau aderyu yr un fath yn hollol ; gallant ymddangos i chwi yn union yr un fath a'u gilydd, ond caech fod gwahaniaeth rhyngddynt pe daliech hwy a manylu. 2 Gwna glas y dorlan ei nyth yn nhorlennydd afonydd. 3. Mae'n eithaf gwir mai yn nythod adar ereill y dodwa'r gog ei hwyan. Mae wyau'r gog o wahanol fathau; mae un math yn las purlas. 4. Aderyn dychymyg yr Arabiaid yw'r roc, ond bu adar anferthol yn y byd; y mae wyau yn yr Arngueddfa Brydeinig yn mesur tair modfedd ar ddeg o hyd wrth naw a hauner o led. Ym Madagasgar y dargaufyddwyd yr wyau mawr hyn, ond y mae'r adar a'u dodwai wedi llwyr ddiílannu o'r byd. Bbti'r Bryn. Dywedir fod pen dwy fatsen yn ddigon i ladd plentyn os sugna hwy. Un o'r Bohth. Dyma i chwi stori arall am y llwynog yn y rhifyn hwn, wedi ei hysgrifennu gan H. Brython Hughes. Gwelwch mai'r cadno sy'n ennill y tro hwn. Amryw. Y mae deg o fywgraffiadau plant mewn Uaw, ond y mae y darluniau heb orffen eu cerfio. Ni wiw anfon bywgraffiadau pobl mewn oed, os nad oeddynt yn athrawon plant, neu'n ymroddedig i wasanaeth plant. Bon. Pe medrid cael lloug danforawl, lloug yn teithio yn nes i waelod y môr nag i'w wyneb, ni fuasai saldra'r mfìr ar neb ynddi. Oud buasai raid iddi symud trwy dywyllwch dudew, ac y mae bryniau a mynyddoedd creigiog yn codi o waelod y mòr. Gwneir arbrawfiadau gan y Llynges o hyd, i geisio cael cychod tanforawl ; suddaut weithiau, a metbant godi i'r wyneb yn ol. B.S. Nid yw'r Brabminiaid yn bwyta dim oud bwyd llysieuol. Mae pob bywyd anifail yn gysegredig ganddynt hwy. Ann Wen. Y mae rhywbeth yn ddigon barbaraidd mewn cynulleidfa o Saeson. Syrthiodd cerddwr rhaffau oddiar raff uchel yn Ha.=tings yn ystod gwyliau'r Llungwyn eleni, a gwelodd y gynulleidfa ef yn disgyn i'w farwolaeth erchyll. Cyn pen yr hanner awr, yr oeddynt yn edrych ar gampau ereill, a'r rhaff yn dal i symud yn araf uwch eu penuau. Montanus Laims. Nid peth anhawdd fyddai cael darlun o brif fynydd pob gwlad. Telir sylw addolgar mewn llawer gwlad i'w prif fyuydd. Yn wir, pe buaswn bagan, peth hawddach i mi fuasai addoli mynydd mawr na llawer petli. Ar y ddalen ne^af cewch ddarlun o fynydd sanctaidd Japan, y wlad y mae cyinaint o son am dani hi a'i phobl yn y dyddiau hyn. Yr oedd i'r Tddewon, ceuedl etholedig yr Arglwydd, eu myuydd sanctaidd hefyd, onid oedd í Yr oedd i'r Groegiaid eu mynydd sanctaidd hefyd A bu Cader Tdris yn fynydd addolid, dywedir eto fod yr Awen yn eistedd yno; os cwsg neb noson ar beu Cader Idris, ebe traddodiad, bydd naill a'i 'n fardd neu'n wallgof ueu'n farw erbyn y bore.