Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT OM. Nid wyf yn sicr y gall alarch gario plentyn. O'r hyn lleiaf. ni hoffwn i chwi dreio nes bod yn sicr. Pe treiech, y mae'n ddiainheu mai boddi a wnaech. Ond yng ngwlad hud yr oedd y plant yn ystorí y tair eneuen. Nid yw pethau yr un fath yn y wlad ryfedd honno ag ydynt yn ein gwlad ni; ond y mae'r un gwersi yn yr hanes a phe bai'n hanes tri o'ch ffryndiau chwi. Cyhoeddir, am ddwy geiniog, gan Owmui y Cyhoeddwyr Cymreig. Caer- narfcn, gyfìeithiad o lyfr Mr. W. T. Stead.—" Y Diwygiadyny Gorllewin." Ynddo dywed yr awdwr bethau dyddorol am dano ei hun. am y Diwygiad, ac am Mr. Evan Poberts. Cyhoedda Ysgol Sir Caernarfon gylehgrawn ysgol; y mae yr ail rifyn ar hugain o'm blaen. Ynddo ceir hanes Dr. Priestley yn darganfod oxygen,—ac y mae'r erthygl yn gynllun o'r pethau ddylid ysgrifennu mewn cylchgrawn fel hyn. Dylid rhoi rhyw arwr gwirioneddol o flaen y plant weithiau. yn lle gofyn iddynt addoli neb ond capten y chware pel droed. Bon. Y mae llaweroedd o lwynogod yng Nghyrnru. Gweleis rai ar yr Aran lawer gwaith. Yn y gaeaf diweddaf, pan oedd Dr. Hugh Joues, Dolgellau, yn dychwelyd o íiaen Cwm Cowarch, rhwng un a dau o'r gloch y bore, ar noson îoergan lleuad, gwelodd lwynog ilwyd mawr yn croesi ffordd y cerbyd. Mair. Eithaf gwir. Pan syrth rhywun i'r agenau yn y rhew oesol ar fyuydd- oedd yr Alpau, y mae'n amhosibl cael eu cyrff. Ond, ymhen blynyddoedd ìawer, daw'r corff i'r golwg o dan odreu y rhew yn y dyffryn islaw. Ni bydd gwaeth,—ond bod bywyd wedi ymadael, - bydd y gwrid ar y gwyneb, a gwén os oedd y farwolaeth yn ddiboen. Gwn am un foneddiges goilodd ei brawd ar un o lethrau'r Alpau ddeugain mlynedd yn ol, sy'n disgwyl i'r rhew roddi corff ei brawd i fyny y flwyddyn hon. Mae y rhai sy'n gwybod hanes y rhew yn dda yn gwybod, bron rr fiwyddyn. pryd y rhydd yr eira a'r rhew eu hysglyfaeth i fyny. Gladys. Daw'r gog a'r regen rych i'r wlad hon bron yr un adeg. Bob. Yr afon sy'n làn, a'r pwll yn fudr. Gwaith sy'n glauhau, diogi sy'n Hwydo bywyd.