Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. 5"*FANNI BLODATJ'R FFAIR. Pan fyddwch yn son am blaned, - dywedwch "y blaned hon;" pan yn son am Mawrth, Mercher, Iaa, neu Sadwrn wrth eu henwau. dywedwch "ef." Pan yn son am Gwener, neu'r Ddaear, neu'r Lleuad, dywedwch "bi." Amryw. Anfoner pob ton i L. J. Roberts, Ysw., Tegfan, Russell Road, Rhyl. Os anfouir hwy i unlle arall, ant ar goll. R. Y mae amryw fywgraffìadau mewn llaw, a rhai darluniau ysgolion, ac ychydig hanes ardaloedd. Y mae hanes ardaloedd yn dderbyniol iawn. Daw lluniau amryw ysgolion a phlant yn fuan. M. B. Y mae llawer yn meddwl fod y Cymro yn hoffach o gaws nag yw cenhedloedd ereill. Gelwir dernyn o gaws twjm yn " Welsh rabbit." " Cheese, which I love not so well as the Welshmen doe," ebe Thomas Coryat yn 1611. S. A J. Yr wyf yn credu fod gwell beirdd yng Nghymru nag yn Lloegr yn awr, a da iawn yw fod yn bosibl cyhoeddi eu gweithiau mewn llyfrau bychain rhad. Yn yr hen amser byddai raid crefu am fenthyg llawysgrif; ond yn awr cewch lyfr tlws. am chwecheiuiog neu swllt, yn eiddo i chwi eich hun. Y mae gennyf gasgliacl helaeth o'r cjfrolau hyn, a llawer awr o orffwys tnelus gaf wrth droi atynt. Y gyfrol ddiweddaf grefais oedd " Wrth Borth yr Awen," caniadau gan Wyn Williams, o swyddfa'r Glorian, Blaeuau Ffestiniog. Y mae'r caneuon mor dderbyniol a'r briallu, ac nid yw pris y gyfrol ond chwecheiniog. A« Sior. Y mae dwy neu dair o Gyfrolau Cyfres y Fil yn y wasg, rhai yn rhyddiaith. Yn eu mysg y mae huuangofìant un o weinidogion enwocaf Cymru, gwaith Glan y Gors, ac emynau'r hen ddiwygiadau (rhai nad ydynt yn y llyfrau hymnau). Eu pris i danysgrifwyr yw ljl\ yr un ; 1/6 i ereill. Rhaid codi pris rhai o'r cyfrolau sydd wedi eu cyhoeddi (D. ab Gwilym, Owen Gruffydd, Huw Morus, Edward Morus, Beirdd y Berwyn, Islwyn, a R. Owen) i 2/6 yn fuan iawn. Y mae gwaith Goronwy Owen (dwy gyfrol), yr unig argraffiad cyflawn o waith barddonol Goronwy sydd wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn. Anfoner enwau tanysgrifwyr i Owen Edwards, Lincoln College, Cxfcrd. Ym Pryd. Dychmygu ei weledigaethau rhyfedd wnaeth Elis Wyn, awdwr " Gweledigaethau Bardd Cwsg." Awgrymwyd hwy iddo gan weledigaethau Yspaenwr o'r enw Quevedo. Gwen. Cewch eiriadur i esbonio geiriau anodd y beirdd Cymreig am ddeunaw ceiniog, oddiwrth Mri. R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy. Y mae llyfr bychan rhad a dyddorol o hanes y Diwygiad yn y De, a hanes Mr. Evan Roberts yn enwedig. wedi ei ysgrifennu gan ídriswyn. Cyhoeddir ef am dair ceiniog gan y Mri. Evans a Williams, Fredericlc Street, Caerdydd. Cofiwch am y gwobrau eylweddol gyhoeddwyd yn rhifyn Rhagfyr. Bydd y cwestiynau yn y rhifyn nesaf.