Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. IL Nant y Bahctd. Nid yw yn wir fod pob aderyn sydd yn y rhestr ddiweddaf yn dal i fyw ym Mlaenau Ffestiniog. Nid yw'r barcud yno, nac yng Nghriceietb, nac yn unman yng Nghymru y gwn i am dano ond Ystrad Ffin. Nid yw'n sicr fcd y rhestr, na'r rhestrau sy'n dilyn, yn bollol gywir ychwaith. Gwaith pìaut meddylgar ac ymchwilgar ydynt, wedi darllen a holi hynny fedrent cyn gwneyd eu rhestr. Ysgtifennant yn aml fel y siaradant, a gadewir iddynt wneyd hynny. Athraw. Nid wyf yn derbyn dim budd ariannol oddi- wrth bysbysiadau Cymru'b Plant, nac oddiwrth ddim arall ynddo. Onide buaswnÊwedi eich ateb yn gyfrinachol, ac nid ar y ddalen hon. Os clywodd y pared wrth i mi daro'r post, goreu oll. 0. I lethu Cymru y codwyd y rhan fwyaf o'r cestyll, ac yn gartrefi cadarn i orthrwm. Ond gwnawd i rai ohonynt wasanaethu rhyddid fr droion, megis pan oedd Owen Glyndŵr yn dal cestyll Aberystwyth a Harlech. Ni fuasai magnelau'r dyddiau hyn fawr o dro yn gwneyd y castell cadarnaf yn garnedd. Anis. Oes, y mae llawer iawn o negroaid yn yr Unol Dalaethau, ac y maent yn cynhyddu yn gyfìym iawn, mor gyflym fel y byddant y prif allu yn y de yn fuan. Ond nid yr Indiaid ydynt hwy. Hen frodorion y wlad yw'r Indiaid,—y croen yn goch a'r gwallt yn syth. Ond disgynyddion y caethweision ryddhawyd cyn eich geni chwi, pan oeddwn i'n blentyn, yw y negroaid. Mae croen y negro yn loewddu, a'i wallt yn grych. 0 Affrig y daeth i ddechreu. Daliwyd ef gan iadron dynion, a gwerthwyd ef i blanigfeydd cotwm a siwgr yr America. Un o'r pethau mwyaf ofnadwy yn hanes dyn yw hanes y negroaid truain hyn. Mae'r negroaid oll yn Gristionogion, ac yn dra duwiolfrydig; cred yr Indiad yn yr " Ysbryd Mawr," ac mewn llawer o fân dduwiau. R. T. 1. Pa wlad erioed fu ar ei cholled oherwydd cryfder gwladgarwch ei meibion ? Cenhedloedd goreu y byd sy'n wladgar. 2. Mawrth lTeg yw Dygwyl Badrig. J. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi am eich awgrymiadau. Hoffwn gyfaddasu popeth at feddwl y plentyn, trwy ei wneyd yn syml a chlir. 0 ran hynny, dylai pob arddull fod yn syml a chlir. Ond gofelir am rywbeth ym mhob rhifyn y gall pob plentyn ei ddeall,—yn ddarlun, ystori, neu gân. Bob. Nadroedd sydd yn lladd mwyaf o bobl yn yr India. Lleddir llawer iawn bob blwyddyn hefyd gan y teigr. Clywais farnwr o'r India yn dweyd y defnyddir y cobra weithiau i ladd pobl yn fwriadol. Rhoddir ef yn nhy dyn yn ilechwraidä, neu ger ei wely feallai. Crogi ddylid am hynny, onide P