Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. OFIED íy nghynorthwywyr caredig fod yn rhaid paratoi y rhan fwyaf o bob rhifyn o Jeiaf fls, weithiau ddau fìs, cyn iddo ym- ddangos. llbaid, felly, wrth lawer o amynedd. Byddaf yn cael erthygl yn amì, gydag erfyniad am iddi ymddangos "yny nesaf," a'r " nesaf " hwnnw wedi gorffen ei argraffu. Gwn y bydd yn dda gan y plant gae darluniau o blant fel hwythau, yn rhifyn hwn. Mae llu eto i ddcd. Bob. 1. Dywed Darwin hanes creulon- derau y Spaenod at Indiaid Patagonia, yn ei " Ybyage of the Beagîe." Dywed hanescyffrousamunhen Indiadyn cipioei fachgenbychan, ynneìdioar gefnmarch gwyn, ac yn medru ei gadw ei hun a'i blentyn ar ochr y ceffyl wrth iddo garlamu, fel y methodd y milwyr a'i saethu. 2. Bu farw Lewis Jones, un o gyd-sefydlwyr y Wladfa Gymreig, ddiwedd y flwyddyn. Gŵr hardd a mwyn oedd, wedi gwastraffu ei egni i roddi bod i Wladfa Gymreig. Cyrhaeddodd ei ferch, Elnned Morgan, adre o Gaerdydd cyn marw ei thad. 3. Y mae Cymry, sydd wedi casglu cyfoeth mewn gwledydd ereill, yn dechreu helpu Cymru. Cynhygia Mr. J. Jones, Pringles, Patagones, y wobr fwyaf rcddir am ryddiaith yn Eisteddfod Aberpennar, sef £25 am " Chwedlau Pabyddol perthynol ibob gwlad, acesboniad ar eu dibenion." Olwen. Y ci ystyrir ffyddlonaf, ond y mae llawer o hanesion am ffyddlondeb cath hefyd. Pan oedd Iarll Essex yn ei gell yn nheyrnasiad y frenhines Elizabeth, wedi ei gondemnio i farw am wrthryfela, medrodd ei gath fynd ato i'w gell. Tybir mai trwy simnai ei garchar yr aeth. Mair. Buasai'n hawdd i mi roi brasluniau o Gymry sydd mewn swyddau pwysig mewn gwledydd ereill. Er esiampl, Cymro yw'r swyddog sydd yn edrychar ol Indiaid yr Unol Dalaethau,—gweddill hen Iwythau enwog y wlad. Dywed y Parch. R. Silyn Roberts beth o'i hanes yng Nghyìchgrawn Myfyrwyr y Bala,—" Gofynnodd President Rooseyelt iddo, yn fy mhresenoldeb, a fedrai Gymraeg. Atebodd gyda gwên na wyddai yr un iaith arall am rai blynyddoedd. Dan ei reolaeth ddoeth a dyngarol ef y mae cyfiwr yr Indiaid wedi ei wellhau yn fawr, ac o ganlyniad, y znae eunifer yn cynhyddu ychydig." Athraw. 1. Nis gwn pam nad oes hysbysebu am athrawon t c athrawesau i ysgolion elfennol ar gloriau Ctmru'r Plant. îíid oes odid ysgol yng Xghymru nad a iddi; ac y mae ei rifynnau yn ddull cyfraunu addysg mewn lluoedd o ysgolion, ac mewn mwy bob blwyddyn. 2. Nis gwn pam y mae Cyngor Addysg Sir Feirionnydd yn hysbysebu mewn papur Saesneg yn unig, tra y cyhoeddir yng Nghaernarfou bapur wythnosol,—y Wehh Leader,—ar gyfer ysgolion ac athrawon yn unig. Trwy hyn, ni ddengys Meirion ei hun yn ddoethach na Chaerdydd, Arfon, Abertawe, a Morgannwg, er ei bod yn dangos ei hun yn llai gwladgarol. J. R. Nid oes prinder llyfrau fel prizes yn Gymraeg. Dyna gyfrolau Daniel Owen, Ceiriog, a Mynyddog,—cyfrolau tlysion, a derbyniol iawn gau yr ieuanc.