Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. RWY'E flwyddyn hon ceisiaf ysgrifau synil, hawdd eu darllen a hawdd eu deall, er mwyn y plant lleiaf. Y mae Arfon,—a Mon a Morgannwg hefyd, yr wyf yn deall,—yn cymeryd Cymru'r Plant i'r ysgolion dyddiol. Felly, rhoddir rhywbeth yn y rhifynnau nesaf ar gyfer plant o bob oed. Ond cofiaf bob amser am y darllennydd sy'n disgwyl ambell hanesyn tarawiadol, ambell esboniad ar flodeuyn wrth ei droed neu seren uwch ei ben, ambell gipolwg ar bethau rhyfedd y byd a'i hanes. Y seeen dlos sy'n gwenu mor hawddgar yn awyr y gorllewin ddechreu'r flwyddyn,—prun ydyw? Y blaned Gwener. " Seren y gweithiwr " yw un o'i hoff enwau. Gelwir hi hefyd yn " seren y bore," neu " seren yr hwyr." Bydd yn ei disgleirdeb mwyaf cyn hir. Cewch ei hanes yn gyflawn yn y rhifyn hwn. Sylwch arni, gwn yr hoffwch y seren dlos. Esboniodd Pythagoras ei symudiadau dri chan mlynedd cyn Cri&t. Felly y mae plant llawer oes wedi syllu arni, ceisio deall pam y mae weithiau'n seren hwyr ac weithiau'n seren fore. Yn y rhifyn nesaf bydd y cyntaf o gyfres o ddarluniau o bobl ryfedd y ddaear, gyda thipyn o hanes pob un. Os nad yw Cymru'r Plant yn cynnwys digon o ddarllen i bobl ieuainc, a gaf fì alw eu sylw at y Cymru mawr P Bydd tua dau ddwsin o ddarluniau prydferth a newydd yn rhifyn Ionawr, ac erthyglau ar destynau o ddyddordeb mawr i bawb sy'n hoff o Gymru neu'n awyddus am wybodaeth. Yr wyf yn credu y bydd yr erthyglau, y farddouiaeth, yr hanesion a'r rhamantau yn rhifynnau'r flwyddyn newydd gyda'r pethau goreu sydd wedi ymddangos yn llenyddiaeth ein gwlad eto. Y mae ysgrifenwyr goreu y wlad hon a'r Amerig yn cyfoethogi ei dudalennau. Xi fydd yn edifar gan yr un gŵr ieuanc gymeryd Cymru yn gyd- ymaith iddo. Rhydd ei bris ef yng nghyrraedd pob gweithiwr,—swllt am y rhifyn dwbl, a chwe cheiniog am y rhifynnau ereill. Ceir ef o Swyddfa Cymru, Caemarfon. Y mae cyfnewid mawr i ddod dros addysg Cymru-yn ystod y flwyddyn hon. Ceir peth o'r hanes yn y rhifyn nesaf. Y mae amryw lyfrau campus i blant wedi dod. Bydd adolygiad arnynt gyda hyn. Y mae amryw ystraeon, dadleuon, a dychmygion wedi eu gohirio dan rifyn Chwefrol. A wna'r plant sylwi ar y cystadleuon y sonnir am danynt yn y rifyn hwn ? Bydd hanes ychwaneg eto cyn nir.