Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. WN fod llawer ohonoch yn cofio " Y Ddau Hogyn Rheiny." Yr olwg olaf gawsoch arnynt oedd yn mynd adref yn y tren. Wel, y mae Miss Wmnie Parry yn mynd i adrodd ychwaneg o'u hanes yn y rhifyn nesaf. Y mae'n bosibl denn at dda, yn ogystal ag at ddrwg. Hoffwn fedru denu ycbwaneg o blant i dderbyn rhifynnau'r flwyddyn nesaf. Yr ydym am eu gwneyd mor brydferth ac mor ddyddorol ag sydd bosibl. Bydd Sigma yn gadael y ser am dro, ac yn esbonio i'r plant, meẃn dull syml a swynol, ddirgelwch pethau sydd yn eu hymyl ac o'u bamgylch bob dydd. Bydd erthyglau syml a chlir ar alluoedd mawrion y byd,—Prydain, yr Unol Dalaethau, Ffrainc, yr Almaen, Rwsia, a'r lleill,—i esbonio i blant paham y maent yu gryf, a beth yw eu hamcanion. Bydd hanes plant, fel o'r blaen. Y mae aml gofiant bychan tarawiadol mewn llaw, a darlun ; drwg gennyf nas gallwn wneyd lle i'r un ohonynt yn y rhifyn hwn. Bydd hanes ysgolion, ni raid dweyd, yn y gyfrol newydd eto. Bydd ynddi hefyd ddarnau i'w hadrodd, darnau i'w hactio, dychmygion, darnau heb atal- uodau, a chystadleuaethau. Bydd cyfres o ystraeon dyddorol am ddarganfyddiadau yn y gwledydd pell, ac am yr hyn sy'n digwydd yn lleoedd pell y byd. Ca'r plant ddod am wibdaith gyda'r wennol i'r de, neu gyda'r adar crwydr i ogledd Siberia; gyda'r rheilffordd newydd i Uganda, neu hyd y ffordd Rwsiaidd o Fôr y Baltic i'r Môr Melyn. Bydd llawer o hanes creaduriaid, o'r anghenfil i'r nautilus, o'r condor i aderyn Paradwys, a'u darluniau. Ceisir denu plant i ddysgu, trwy ennyn eu dyddordeb. Bydd ystraeon o hanes Cymru hefyd. Mae pawb yn darllen hanes Cymru yn awr. Mae Mr. Bradley wedi ysgrifennu am Owen Glyndwr yn Saesneg. Tachwedd 25, ymddanghosodd yr hanes Cymru poblogaidd cyntaf i'r Saeson, dan yr enw "The Story of Wales." Gwerthir ef am 5/-, gan T. Fisher Unwin, 11, Paternoster Buildings, London, W.C. Bydd ysgrifenwyr yn dweyd rhai o hanesion yr hen Gymry i'w plant yn rhifynnau y flwyddyn nesaf. Yk wyf yn diolch i'r plant drwy Gymru am eu sel. Yr wyf yn dymuno iddynt Nadolig dedwrdd a blwyddyn newydd dda.