Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT PLANT. Yn y rhifyn nesaf bydd darluniau o Gôr Plant Henllan, o Obeithlu Glasgoed, ac o blant y Cyfyng. Feallai na ŵyr pawb ddiín ymhle y mae'r Cyfyng, ac mai yno y ganwyd William Morgan, cyfleithydd y Beibl i'r iaith Gyniraeg. W. D. Joxes. Rhoddais y gân am y ganrif newydd yn Cymru y mis diweddaf. gau ei bod braidd yn hir i'r dalennau hyn, a chan ei bod yn arweiniad dymunol i erthygl yn rhoddi barn prif wyddonwyr y deyrnas ar beth a wneir yn y ganrif newydd. G-wel y plant lythyrau yn y rhifyn hwn yn desgrifio gwledydd pell,—Colorado, a maes y rhyfel yn Affrig. Mae croesaw bob amser i ddarluniadau o wledydd pell gan Gymry sydd yno'n byw. Yr wyf yn sicr y bydd yn dda gennych ddarllen erthygl a llythyr Ben Bowen, a'ch bod yn gobeithìo fod ei iechyd yn dod yn ol. Daw ychwaneg oddiwrtho eto. Ystyrrir mai Dafydd ab Gwilym yw prif fardd serch y Cymry. Efe yw bardd goreu cyfnod euraidd ein llenyddiaeth. Ac eto nid oes gyfrol o'i waith yng nghyr- raedd y werin. Da gennyf hysbysa fod cyfrol fechan brydferth o'i waith yn awr ar werth. Cynhwysa ei gywyddau goreu, wedi eu lleoli fel y gellir deall ei hanes a theimlo swyn ei athrylith. Esbonnir ei amseroedd mewn rhagymadrodd, ac y mae mynegai esboniadol ar eiriau yn ei ddiwedd. Gyda chymorth y mynegai hwn, gall pob un fedr ddarllen ei Feibl Cymraeg ddeall ein prif fardd. cenhedl- aethol. Y mae'r gyfrol yn dlos a rhad ; 112 tudalen, wedi eu rhẁymo mewn llian, gydag amryw ddarluniau. Ei phris yw swllt; i'w chael oddiwrth Ab Owen, Llanuwchllyn, y Bala. Y mae " Odlau Cân" Mr. Robert Bryan wedi cael croesaw brwdfrydig. Dy- wedir hefyd nad ymddanghosodd gwaith yr un bardd Cymreig o'r bìaen mewn diwyg cyn dlysed. Codir y pris o dri a chwech i goron wedi mis Ionawr. Y mae'r gyfrol i'w chael oddiwrth Ab Owen, Llanuwchllyn. Yng nghyfres chwe cheiniog Hughes o Wrecsam, cyfrol ar Islwyn gan Dyfed yw'r gyfrol newydd. Nis gwn am ddim fuasai'n well addysg lenyddol i fechgyn a genethpd na'r gyfrol fechan hon. NM pob un o'm darllenwyr fedr eistedd wrth draed darlithydd ar lenyddiaeth yn un o golegau ein prifysgol, ond dyma gyfle i eistedd wrth draed un o feirdd mwyaf meddylgar Cymru, ac i wrando arno yn dangos y ffordd i ddeall Islwyn.