Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. yMYSG llyfrau newyddion, y mae llyfr bychan darllenadwy ar " Yictoria " gany Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle. Cyhoeddir ef am ddeuswllt gan Hughes, Gwrecsam. Yn rhifyn diweddaf y Tyst Dirwestol ceir hanes y Parch. Benjamin Hughes, Llanelwy. Cymerodd yr ardystiad dirwestol yn haf 1836, ac felly y mae yn un o'r dirwestwyr hynaf yng Nghymru. Pwy yw yr hynaf un, tybed? Buasai'n werth cael gwybod. Heb'law y rhai enwais o'r blaen, cefais gyfieithiadau da iawn o'r desgrifiad Ffrengig o'r alaw, " Bugeilio'r Gwenith Gwyn," oddiwrth J. B. Evans, Llys Meddyg, Ffestiniog; W. Jones, 44, Glover St., Birkenhead; Wilnam G. Jones, Bryn Glas, Treharris; Llin y Mynydd, tipyn bach o ddychymyg yn y cyfieithiad; J. H. Davies, 30, Langdon Place, Abertawe; Gedeon, gair gwneyd, braidd, yw "llawen-lesmair;" Peredur, gwell cyfìeithiad na llawysgrif; T. W. Newman, Llundain; M. A. Owen, 112, Carneddi Boad, Bethesda, destlus a chain; William Thomas, Cellwar, Maes y Bont, Llandebie; "Little England below Wales," da iawn, yr wyf yn meddwl i mi eich clywed yn siarad Cymraeg ryw dro yn ol; G. Griffiths, 20, Siddon Boad, Garston; Daisy Owen, Tỳ Capel Coch, Llan- gwyllog, gair da, ond ychydig yn rhy gryf yma, yw " per-lesmair;" Jane, cam- gymerwch y frawddeg gyntaf, y mae eich llawysgrif yn dlos iawn; T. Roberts, Borthfechan, Borth; Un o'r wlad; Marguerite; Hawys Ddu; R. T. Griffith, Ddol Helyg, Cwm y Glo. Yr wyf yn dra diolchgar i'r darllenwyr am deimlo awydd cyfieithu wrth weled y dernyn. Y mae gwybod y Ffrancaeg yn agor un o feusydd mwyaf toreithiog a swynol llenyddiaeth inni. Y mae'n anodd dewis y cyfìeithiad goreu; yr wyf yn rhoddi ar ddalen araU gyfieithiad boneddwr o Sais sydd wedi dysgu Cymraeg. Beth sy'n fwy hyfryd i edrych arno na darlun o gwmni o blant ? Ni thybiais o'r blaen fod cymaint o amrywiaeth ym mywyd plant. Yn y rhifyn hwn ceir dau ddarlun ohonynt,—yn un y maent ar eu goreu yn chwarae, yn y llall y maent yn gyfrinfa fach ddarbodol. At y rhifynnau nesaf y mae gennyf amryw- iaeth fwy fÿth, ac nis gallaf beidio enwi rhai ohonynt,—plant Abertawe eto; "Seiat y Plant," Seion, Llanrwst; "Diwrnod Golchi," plant Caerwys; plant Morfa Bach ; plant y Sipiwn; ac amryw gorau plant. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i'r rhai anfonodd ddarluniau mor darawiadol. J. J. Ni raid gofyn caniatad i ddefnyddio tonau Cymru'r Plant mewn cystadleuaeth; at waith felly, ymysg pethau ereill, yr argreffir ef. Ond, os ail argreffir y dôn, yn lle defnyddio y rhifynnau, rhaid cael caniatad cyfansoddwr y d.ôn. Y mae enw'r cyfansoddwr bob amser wrth ben y dôn. Disgwylia'r cyfansoddwr ychydig gydnabyddiaeth, rhyw goron neu chweugain neu bunt, am y caniatad. Y mae hynny yn help iddo gadw ei hawlfraint i'w waith, heblaw ei fod yn dâl bychan i rai sydd yn gwneyd cymaint, heb fawr iawn o elw, i wneyd plant a chartrefi yn ddedwydd. Drwg gennyf nas gallaswn eich ateb chwi, ac ereill, yn gynt trwy lythyr.