Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. RTH aufon rhifyn y mis hwn yr wyf yn cofìo fod rhifyn diweddaf Cymru yn dechreu cyfroi newydd. I'r plant hynaf y mae llawer o bethau wrth eu bodd ynddo, ac yn y rhannau sydd yn ei ddilyn. Arwain R. Morgan hwy i'r wig, gan fynd heibio bedd y fronfraith a chartref y llyffant, a dangos cartref y briallu gwylaidd, a dilyn crwydriadau y " gwddw gwyn " a'r gloyn gwyn. Cânt deithio gyda Mits Lucy Grifflth i hafanau a chymoedd cul Norway. Ýsgrifenna Rheithor Gelhgaer bethan hynod ddyddorol am wawriad Cristionogaeth yn ein gwlad. Dengys y Parch. D. Lloyd Jones pa fodd y gwnawd meusydd glo anferth Gwent a Morgannwg. Rhydd Cadrawd oleuni newydd ar Samuel Jones o Frynllywarch a'i amserau. Sonia Glaslyn, yn ei ddull cain a dyddorol ei hun, am gallineb anifeiliaid. Yn wir, pe ceisiwn enwi yr awdwyr i gyd, byddai raid i mi ysgrifennu hanner hanes llenyddiaeth y dydd hwn. Cymro o'r Mynydd. Diolch yn fawr am y darlun. Tr oedd yr eira wedi tywyllu cymaint ar yr awyr nes duo y darlun, ac y mae arnaf ofn nas gellir ei gerfío'n foddhaol iawn. Diolch i chwi am atalnodi y dernyn hefyd, er mwyn i mi ei ddeall Cefais lawer llythyr dyddorol yn esbonio y gair " atrid." Llafar Morgannwg yw am " dihatru," sef diosg. "Matri" yw mewn rhai mannau yng Ngher- edigion, ebe Mr. D. Jones, Heol y Bont, Aberystwyth. Yrchwanega Mr. D. M. Jenlcins, Trefforest, nad yw plant yn codi yn y bore, " cwnoi" y maent; ac nid yw storm yn dibennu ym Morgannwg, ond y mae'n " cwpla" 'n waff. Cofied y plant ac ereill fod cerdyn post yn meddu llawer rhagoriaeth ar lythyr, megis (1) mae'n rhatach o'r hanner, (2) rhaid bod yn fyr wrth ddweyd ystori arno, (3) mae'n llai trafferthus i'w yrru a'i ddarllen a'i gadw. Cefais gyfieithiadau campus o'r dernyn Ffrengigam " Fugeilio'r Gwenith Gwyn" oddiwrth Mair y Mynydd, Feredut', Gidepiîî, :R. Edwards, J. E. Owen, Gwyn ab Nudd. Ceir enwau cyfieithwyr er^Uÿ^y^îufyänesaf. Mae'r Mri. Hughes, Gwrecsam, ne^yjdd gyhŵâ^Ìlyfr bychan dyddorol iawn o waith Anthropos. " Camrau Llwỳädiant" '3^iiét--ènw ; trem ar fywyd Dewi Arfon ydyw.