Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. eERDDORION. Os bydd angen caniatad i argraffu tonau anfouer, bob amser, nid at y golygydd neu'r cyhoeddwyr, ond at y cyfansoddwr. Bydd ei enw a'i gyfeiriad uwch ben y dôn. Nis gall y golygydd a'r cyhoedd- wyr roddi caniatad heb dderbyu pumswllt, y rhai a anfouir ar unwaith i'r cyfansoddwr. Os na bydd enw a chyfeiriad uwch ben y dôn, anfoner am ganiatad at L. J. Roberts, Ysw., Tegfan, Rhyl. ÜSTi fyunwn roddi dim anhawsder ar ffordd pwyllgorau, fy nymuniad yw eu gwasanaethu hyd eithaf fy ngallu. Ond yr wyf yn ystyried mai gweddus yw i bwyllgor dalu rhyw ychydig fel cydnabyddiaeth i awdwr tôn, os ua fydd Úe i ofyn iddo, oherwydd anallu i dalu, i roddi ei ganiatad am ddim. Cofier mai cyfansoddwr y dôn, ac nid y golygydd, fedd yr hawlfraint bob amser. Gan mlynedd yn ol, yn rhyfeloedd Bonni, gorfodid gwŷr i wasanaethu yn y fyddin ac yn y llynges. Ai'r press gangs allan i chwilio am fechgyn talgryf, a gorfodent hwy i fyned i'r rhyfel. Llawer ystryw wnaeth yr ofnus i ddianc. Yrnhellach ymlaen ceir ystori am y presa gang yn Lleyn, wedi ei hysgrifennu gan un o gapteniaid llongau y wlad houuo ar ei f ordaith i Awstralia. Yn y rhifyn hwn ceir peth newydd, sef dadl rhwug pedair geneth. Gellir newid yr enwau, wrth gwrs, i enwau unrhyw bedair fydd yn actio. Pwy gyfansodda ddarnau ereill tebyg iddynt ? Dylai fod rhyw feddwl tarawiadol ymhob dernyn, a chân ar y diwedd. " Yicissitudes of Families." Feallai mai y gair Cymraeg goreu am enw y llyfr hwn fyddai " Troion yn hanes Teuluoedd." Dyma dasg gampus i ryw lenor Cymreig,—olrhain hanes teuluoedd y ganrif hon a'r ddiweddaf, fel y daeth tro gwell ar fyd i rai, a throion gwaeth i ereill. £____J| Gwelir yn y rhifyn hwn gân i blentyndod yn nhafodiaith Morgannwg. Cofìed plant y Gogledd mai bachgen heb ymolchi yw "bachgen brwnt." Pwy a'n hysbysa beth yw " atrid " ? Bydd yn dda gan gantorion a thelynorion bychain Cymru gael hanes Telynores Gwalia. Bu darlun da o honi yn un o rifynnau diweddaf Cymku. Y mae Mr. H. Lewis, F.G.S., prifathraw ysgol elfennol y bechgyn yn Llangollen, wedi ysgrifennu llyfr bychan ar ddaearyddiaeth Gogledd Cymru. Llongyfarchaf Mr. Lewis ar ei etholiad gan ysgolfeistri Cymru i'w cynrychioli ar bwyllgor gweithiol Undeb yr Athrawon. Wäth barotoi y rhifyn hwn meddyliwn am fanteision plant Cymru,—yr haf tyner, y blodau prydferth, y coed g^-yrddion, y bywyd iach, y dwfr glân. A ^waedai'm calon wrth feddwl am blant Affrig,—heb gartref, heb gysgod rhag ha il -a storm, mewn newyn a chlefyd. Darfydded. rhyfel o'r tir.