Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT BLANT O BOB OED. ERTHYGLAU dyddorol Mr. R. Morgan yn rhifynnau Cymru yr wyf yn codi ychydig o hanes y gloyn byw a'r gláswenwyn. Rhyw dameidiau ydynt, wedi eu codi o ganol yr erthyglau sy'n ddarluniadau mor gywir ac mor ddyddorol o dlysni y byd o'n hamgylch. Tad Bob. Yr wyf wedi clywed droion fod erthyglau y rhifynnau diweddaf ychydig yn rhy anawdd i blant. "Wrth gwrs, rhaid cofio fod. pobl mewn oed yn darllen y cylchgrawn. Dylai plant gael erthyglau y rhaid iddynt ymdrechu uwch eu pennau hefyd. Ond ceisiaf ofalu fod digon o hanesion mewn iaith seml dryloew yn y rhifynnau nesaf. 0. J. W. Y mae'r testyn yn ddieithr ac yn brudd. Ond apelia yn rymus at ddychymyg plant. Caiff le y cyfle cyntaf. Ymysg llyfrau'r mis hwn, y pennaf yw " Cofiant Herber Evans," gan Elfed. Cyhoeddir ef gan Mri. Hughes, Gwrecsam, am dri a chwech. Y mae'n llyfr prydferth a deniadol; ac ynddo ceir cwmni Herber ei hun, adlais ei hyawdledd yn y pulpud a'i gwmni ar yr aelwyd. Yn y rhifyn hwn cewch ystori wir am neidr. Yr wyf yn sicr y teimlwch fod eisiau dofì a lladd y nadroedd gwenwynig sydd yn ein natur, a gochel y rhai sydd y tu allan i ni. Yr wyf yn cofio clywed am fachgen yn rhedeg am ei fywyd, o flaen tarw, feddyliai ef. Pan beidiai ef a rhedeg, peidiai'r tarw ruo. Pluen yn ei gap oedd yn gwneyd y swn i gyd. Cypieithwyd yr hanes am dial dyn du, a welir ar dudalen arall, o'r Ffrancaeg gan foneddwr sydd wedi dysgu Cymraeg. Gofynnodd Carneddog i mi roddi hanes John Closs ddechreu'r flwyddyn, yn un o fisoedd yr eira. Gwnaeth fi mor brudd wrth ei ddarllen fel y rhoddais ef heibio am fisoedd. Ceir ef yn y rhifyn hwn. Y mae gwibed yn Affrig yn pigo ceffylau i farwolaeth. Ond nid yw eu brathiad yn wenwynig i'r zebra. Meddylir yn awr am ddofì'r zebra at wasanaeth dyn yn y wlad honno. Ychydig amser yn ol tynnid boneddiges mewn cerbyd bychan trwy heolydd Paris gan ddau zebra. Yr wyf yn gobeithio y bydd i bob mam ieuanc ddarllen yr erthyglau ar " Wrhydri Mam" yn ofalus. Y mae'r fam eto'n fyw; ond ni roddir ei henw, nag enwau'r plant, rhag ofn y byddai hynny yn beth croes i'w theimlad hi. Yn y rhifyn nesaf bydd ychwaneg o ddarluniau plant ac ar adar a blodau yr haf. Y plant sy'n hoff o ganu, darllennwch y Cerddor.