Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. RTH groesawu'r gwanwyn, cofied y plant fod yn drugarog wrth yr adar. Y mae'r nytliod yn gywrain; y mae'r wyau gwyn a glas a choch ac yspotiog yn dlysion ryfeddol. Edrychwch arnynt, ond na chyffyrddwch â hwy. Os din- istriwch wy neu nyth, beth eichcosb? Megir ysbryd creulon ynnoch, a bydd yn ffrewyll i chwi eich hun cyn hir. Os arbedwcb hwy, beth fydd eich gwobr ? Aiff ysbryd hedd i'ch calon; a medr hwnnw eich gwneyd yn dded- wydd iawn. Yh y rhifyn nesaf bydd llawer o ddarluniau adar, a'u hanes„ Gwelib darlun bychan prydferth uwchben y cofiantau ar dudalen arall. Gwaith arlunyddes Gymreig, un o deulu awdwr '' Gweledigaethau Bardd Cwsg" ydyw, sef Miss Winifred Hartley. Geiriau y bardd Seisnig Keats roddodd syniad y darlun,— ** Shed no tear, Oh shed no tear, The flowers will bloom another year ; Dry up your eyes, Oh dry up your eyes. For I was told in Paradise To ease my soul of melodies, Shed no tear." Oud i chwi graffu, gwelwch ''W. Hartley," yn ysgrifen yr awdures, ar amryw ddarluniau yn y rhifynnau sydd i ddod. Y mae yn awr yu gwneyd darluniau i esbonio hwiangerddi Cymru. Os medr rhywun hwiangerddi, byddwn yn dra diolchgar am danynt, i wneyd y casgliad yn un llawn. Emily Davies, Tý Coch. diweddaf. Ie, "B" yw'r atebiad i'r dychymyg yn y rhifyn Billie Morgan, Llanidloes. Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich ffydd- londeb; ond nid oes yr un o'ch cynhyrchion yn bwrpasol eto. Onid gwell fyddai eu hanfon i ryw gylchgrawn crefyddol ? Anaml iawn y medraf ohebu â'm cynorthwywyr caredig; yr wyf yn rhy brysur. Y"n rhifynnau Cymru y flwyddyn hon ceir lliaws o erthyglau darluniadol campns ar ddaeareg, daearyddiaeth, llysieuaeth, ac adar Cymru. Y mae yn yr un rhifynnau erthyglau dyddorol a darllenadwy ar wyddoniaeth, darganfydd- iadau, a theithiau hefyd. Yr wyf yn ysgrifennu hyn yn ateb i amryw fydd yn fy holi am rywbeth i'w ddarllen " yn lle prydyddiaeth a hanes bywyd pregeth- wyr o hyd." Gwelib. yn y rhifyn hwn ddarlun gan Gymraes arall, sef Mrs. Dorothy Stanley, gwraig y teithiwr enwog. Ei henw morwynol oedd Dorothy Tennant, ac yr oedd yn enwog am ei medr i ddarlunio bywyd plant, fel y mae eto. Bydd darluniau o blant Llangollen a Llandysul yn y rhifyn nesaf.